Mae’r dyfalu’n parhau am gyflwr Dug Caeredin ar ôl i’r Tywysog Charles deithio 200 milltir i’w weld e yn yr ysbyty yn Llundain sy’n caniatáu ymwelwyr “o dan amgylchiadau eithriadol”.
Fe fu Dug Caeredin, sy’n 99 oed, yn yr ysbyty ers pum noson ac fe deithiodd ei fab yno brynhawn ddoe (dydd Sadwrn, Chwefror 20).
Dyma’r tro cyntaf i aelod o’r teulu fynd i’w weld e yn yr ysbyty, ar ôl iddo gael ei dderbyn fel rhagofal ar ôl teimlo’n sâl.
Roedd y Tywysog Charles yn yr ysbyty am ryw hanner awr cyn dychwelyd i’w gartref yn Highgrove yn Swydd Gaerloyw, yn ôl llefarydd ar ei ran.
Mae lle i gredu bod ei fab am fynd i’w weld e yn sgil ei arhosiad hir yn yr ysbyty ac am nad oedd e wedi ei weld e ers y Nadolig yn sgil cyfyngiadau’r coronafeirws, wrth i’w dad aros yng nghastell Windsor.
Daw’r ymweliad ddiwrnod ar ôl i Harry a Meghan golli eu breintiau brenhinol a chyhoeddi eu bod nhw’n disgwyl ail blentyn.
Yn ôl yr awdur brenhinol Penny Junor, mae’n bosib fod y tad a’r mab eisiau trafod sefyllfa Harry.