Mae nifer o ffyrdd wedi bod ynghau yng Nghaerfyrddin yn ystod y prynhawn yn dilyn llifogydd.

Mae rhybudd oren wedi bod mewn grym mewn rhannau helaeth o Gymru, gydag afon Tywi ymhlith y gwaethaf.

Mae nifer o ffyrdd y dref wedi bod ynghau drwy gydol y prynhawn.

Dyma’r olygfa yn Llandysul:

 

Ac yn Llanbed:

Yn ôl yr heddlu, mae rhai pobol wedi cael eu symud o’u cartrefi yng Nghastellnewydd Emlyn, ond mae eraill wedi penderfynu aros ac wedi cael cyngor gan yr awdurdodau.

Ymateb y Ceidwadwyr Cymreig

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi ymateb yn chwyrn i’r llifogydd.

“Unwaith eto, mae Cymru’n cael ei tharo gan lifogydd gyda chartrefi a busnesau pobol yn cael eu dinistrio ac eto, ychydig iawn sydd wedi cael ei wneud ers y llifogydd mawr y llynedd i atal neu leihau eu heffaith,” meddai Janet Finch-Saunders, llefarydd yr Amgylchedd y Ceidwadwyr Cymreig.

“Fe fu gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldeb i warchod cymunedau rhag llifogydd ers ugain mlynedd ac eto, flwyddyn ar ôl blwyddyn, mae cymunedau’n parhau i gael eu heffeithio.

“Mae angen gweithredoedd nid geiriau arnom er mwyn atal llifogydd yn y dyfodol.

“Mae angen Asiantaeth Lifogydd Genedlaethol i sicrhau bod gwersi’n cael eu dysgu ar ôl digwyddiadau fel y rhai y penwythnos hwn, a gweithredu er mwyn atal difrod yn y dyfodol.

“Mae angen cefnogi hyn gyda digon o arian i sicrhau bod modd rhoi mesurau atal llifogydd yn eu lle.

“Mae gennym gynllun i warchod Cymru rhag llifogydd yn y dyfodol, ac mae angen i Lywodraeth Cymru ddal i fyny yn gyflym.”