Mae Heddlu’r Gogledd yn dweud bod corff dyn 38 oed wedi’i ganfod ar ymyl ffordd A5052 rhwng y Fali a Llanynghenedl ym Môn neithiwr (nos Wener, Chwefror 19).

Cawson nhw eu galw toc ar ôl 11 o’r gloch y nos ar ôl i aelodau’r cyhoedd ei weld yn anymwybodol.

Ond er gwaetha’r ymdrechion i’w achub, fe fu farw yn y fan a’r lle.

Yn ôl yr heddlu, mae’n debygol fod y dyn wedi cael ei daro gan gerbyd a’i adael ar ymyl y ffordd.

Mae ei deulu’n cael cefnogaeth yr heddlu ar hyn o bryd, ac mae’r heddlu’n dweud iddyn nhw ddioddef “trawma difrifol”.

Maen nhw’n annog tystion i gysylltu â nhw â gwybodaeth, yn enwedig y rhai oedd ar yr A5025 rhwng y Fali a Llanfachraeth neu rhwng Llanynghenedl a Bodedern rhwng 8.20 ac 11.30 neithiwr, neu unrhyw un sydd â deunydd dashcam.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth ffonio 101.