Mae rhwydwaith ieithoedd yn cefnogi ymgyrch gan bobol sy’n brwydro yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Ffrainc i leihau faint o Lydaweg sy’n cael ei dysgu mewn ysgolion.

Mae’r Rhwydwaith Cydraddoldeb Ieithoedd Ewropeaidd yn galw ar y llywodraeth i wyrdroi eu penderfyniad “ar unwaith”.

Maen nhw’n dweud bod gan Lywodraeth Ffrainc agwedd “enbyd” tuag at yr hyn maen nhw’n eu hystyried yn “ieithoedd rhanbarthol”.

“Rhaid i’r wladwriaeth Ffrengig roi terfyn ar ei pholisïau cyntefig o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg a gwahaniaethu systemig sydd wedi’i gynllunio i ddileu’r ieithoedd hyn,” meddai’r Rhwydwaith mewn datganiad.

“Mae hawliau ieithyddol yn hawliau dynol ac yn yr ystyr hynny, mae Ffrainc wedi methu fel gwladwriaeth â chynnig unrhyw warchodaeth i’w thrigolion ei hun sy’n siarad iaith ‘ranbarthol’.

“Hyd yn oed yn ystod argyfwng iechyd enfawr fel pandemig COVID-19, methodd â chynnig y wybodaeth iechyd fwyaf sylfaenol mewn ieithoedd rhanbarthol er gwaethaf argymhellion y Cenhedloedd Unedig, Cyngor Ewrop ac OSCE i wneud hynny.”

Mae hefyd yn galw ar Lywodraeth Ffrainc i roi’r gorau i “ymgyrch fwriadol, barhaus” yn erbyn y mudiad ysgolion Diwan.

Maen nhw’n galw am dair awr o wersi Llydaweg mewn ysgolion bob wythnos, a hynny fel dosbarthiadau cyfan yn hytrach na fesul gallu.

“Mae rhoi’r gwersi hyn yn ôl lefel pan fo sawl dosbarth ar yr un lefel yn golygu torri oriau a swyddi o bosib,” meddai.

“Os yw’r ymosodiad presennol yn erbyn Diwan yn llwyddiannus, y cyhoedd neu golegau ac ysgolion dwyieithog Llydaweg Gatholig all fod yfory.”

Ymhellach, mae’r ymgyrchwyr yn galw am:

  • roi sêl bendith i’r Siarter ar gyfer ieithoedd lleiafrifo sy’n ofynnol ar gyfer aelodau’r Undeb Ewropeaidd 
  • cyflwyno Deddf Iaith Lydaweg i sicrhau hawliau a chefnogaeth i addysg trwy gyfrwng y Llydaweg 
  • cefnogi Mesur Paul Molac ar ieithoedd lleiafrifol a fydd yn destun pleidlais yn y Cynulliad Cenedlaethol ym mis Ebrill.