Mae Siân Gwenllian, llefarydd addysg Plaid Cymru, yn galw am flaenoriaethu staff ysgolion wrth benderfynu ym mha drefn fydd pobol yn cael brechlyn Covid-19.

Ac mae hi’n dweud y dylai Llywodraeth Cymru gefnogi’r alwad, gan egluro y dylai diogelwch staff a disgyblion fod yn “flaenoriaeth rhif un” wrth i ragor o blant gael eu derbyn yn ôl yr wythnos hon.

Bydd plant rhwng tair a saith oed yn dychwelyd yn raddol i’r ysgol o heddiw (dydd Llun, Chwefror 22), ynghyd â rhai myfyfwyr coleg.

Yn ôl Siân Gwenllian, dylai Llywodraeth Cymru fod yn “gwbl dryloyw” wrth dderbyn y cyngor gwyddonol diweddaraf cyn i neb arall ddychwelyd ac wrth baratoi i gau ysgolion pe bai clystyrau o achosion yn codi.

Ymhlith y mesurau mae hi’n galw amdanyn nhw mae awyru digonol.

Mae disgwyl i ragor o blant ddychwelyd i’r ysgol i gael gwersi wyneb yn wyneb ar Fawrth 15 – ond dim ond os bydd cyfradd yr achosion yn parhau i ostwng.

‘Bwlch digidol’

“Dylai diogelwch staff a phlant ysgol fod yn flaenoriaeth rhif un wrth i ysgolion baratoi i agor i ragor o blant yr wythnos hon,” meddai.

“Mae dychwelyd ein plant i addysg wyneb yn wyneb yn eithriadol o bwysig ond dylai hyn gael ei yrru gan y data.

“Rydym yn disgwyl i Lywodraeth Cymru fod yn gwbl dryloyw efo’r cyngor gwyddonol diweddaraf mae’n ei dderbyn cyn dychwelyd unrhyw ffrwd bellach – ac yn barod i gau ysgolion unigol pe bai clystyrau’n dechrau ymddangos.

“Dylai’r Llywodraeth Lafur gefnogi’n llwyr y galwadau i staff ysgolion gael blaenoriaeth ar gyfer y brechlyn o fewn eu grwpiau oedran.

“Dylai mesurau diogelwch bwysleisio awyru digonol yn adeiladau’r ysgolion.

“Yn y cyfamser, mae’r bwlch digidol yn dal yn bod ar gyfer y rhai sydd eto i ddychwelyd, a rhaid i’r Llywodraeth ddyblu eu hymdrechion i sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn ymgysylltu’n llwyr yn eu gwaith ysgol.”