Mae mwy na hanner cyflogwyr y Deyrnas Unedig yn bwriadu recriwtio rhagor o weithwyr yn yr wythnosau nesaf, y ffigwr uchaf mewn blwyddyn, yn ôl gwaith ymchwil newydd.
Roedd tua 56% o 2,000 o gyflogwyr oedd wedi cymryd rhan yn yr arolwg wedi awgrymu eu bod yn bwriadu cyflogi rhagor o staff yn chwarter cyntaf 2021. Mae hynny’n gynnydd o’r 53% yn y chwarter blaenorol a 49% chwe mis yn ôl.
Mae’r sectorau sydd yn fwyaf tebygol o recriwtio yn cynnwys gofal iechyd, y sector arian ac yswiriant, addysg a gwybodaeth a chyfathrebu, tra bod y cyflogwyr sy’n llai tebygol o wneud hynny yn cynnwys y sector lletygarwch, yn ôl yr astudiaeth.
Mae’r grŵp adnoddau dynol CIPD (Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu) a Adecco yn dweud bod yr arolwg hefyd yn dangos bod nifer y sefydliadau sy’n bwriadu gwneud diswyddiadau yn nhri mis cynta’r flwyddyn hefyd wedi gostwng o 30% i 20% o’i gymharu gyda’r chwarter blaenorol.
Yn ôl yr adroddiad mae hyder cyflogwyr wedi cynyddu o bosib oherwydd cytundeb masnach Brexit, ymestyn y cynllun cadw swyddi yn sgil y coronafeirws tan ddiwedd mis Ebrill, a’r gobaith y bydd yr economi yn dechrau adfer yn ddiweddarach eleni.
Dywedodd Gerwyn Davies o’r CIPD, bod yna arwyddion calonogol ond ei fod “yn rhy gynnar i ddiystyru rhagor o ddiswyddiadau yn y sector preifat yn ddiweddarach eleni os nad yw’r Llywodraeth yn ymestyn y cynllun ffyrlo hyd at ddiwedd mis Mehefin neu os yw’r economi yn wynebu rhagor o ansicrwydd.”