Sgoriodd asgellwr Cymru, Daniel James, eto ddoe (dydd Sul, Chwefror 21) wrth i Manchester United guro Newcastle o 3-1.

Hon oedd ei ail gôl o fewn wythnos, ar ôl iddo rwydo yn Ewrop ddydd Iau (Chwefror 18) mewn buddugoliaeth 4-0 yn erbyn Real Sociedad.

Ychwanegodd Daniel James i gôl agoriadol Marcus Rashford, gan roi Manchester United yn ôl ar y blaen ar 2-1, cyn i Bruno Fernandes sgorio cic o’r smotyn i sicrhau’r fuddugoliaeth.

Mae gan Daniel James 6 gôl mewn 9 o’i gemau diwethaf i Manchester United a Chymru.

“Colli fy ffordd”

Dyma oedd y tro cyntaf i Daniel James ddechrau gêm yn yr Uwch Gynghrair ers Rhagfyr 26, ac mae’r Cymro wedi cyfaddef ei fod wedi “colli ei ffordd” am gyfnod.

Wrth siarad â BT Sport ar ôl y gêm, dywedodd Daniel James: “Mae pobol yn dweud mod i ddim wedi bod yn chwarae gymaint yn ddiweddar, ond dw i wedi bod yn gweithio’n galed a gwneud popeth y gallai pan dw i yn chwarae.

“Dw i’n meddwl bod yno gyfnod wedi bod y tymor diwethaf lle nad oeddwn i’n chwarae gystal ag y galla’i.

“Dw i’n meddwl mod i wedi colli fy ffordd braidd, doeddwn i ddim yn chwarae gystal ag ar ddechrau’r tymor diwethaf.

“Ond mae gen i’r bobol iawn o fy nghwmpas, i fy nghynghori a gweithio ar bethau gyda mi, a dw i wedi bod yn gweithio mor galed ag y galla’i ar y cae hyfforddi er mwyn ceisio dod yn ôl at fy hun a dw i’n licio meddwl mod i yna.”

“Mae Dan yn dysgu, dw i’n hapus drosto” – Ole Gunnar Soskjaer

Roedd rheolwr Manchester United, Ole Gunnar Solskjaer, yn llawn clod i Daniel James ar ôl y gêm, gan ddweud ei fod yn “hapus drosto”.

“Mae o wastad yn chwaraewr y gallwch chi ddefnyddio mewn amryw o safleoedd gyda’i egni a’i gyflymder ac mae o’n dal i ddysgu’r gêm felly dw i’n hapus iawn drosto,” meddai wrth BT Sport.

“Rydan ni’n gweithio gydag ef, ac wrth gwrs daeth Dan o’r Bencampwriaeth i Manchester United.

“Sgoriodd lond llaw o goliau yn ei gemau cyntaf ac mae hynny i gyd yn mynd i gymryd dipyn o egni i ffwrdd… yr holl benawdau, sylw gan y wasg, ond mae o wedi rhoi ei ben lawr a gweithio’n galed iawn i sicrhau ei fod yn ffit ac adeiladu hyder, i gredu ynddo’i hun.

“Mae o’n gwybod ei fod o’n chwaraewr da.”