Fydd Jordan Morris, ymosodwr tîm pêl-droed Abertawe, ddim ar gael am weddill y tymor ar ôl anafu ei ben-glin yn y gêm yn Huddersfield ddydd Sadwrn (Chwefror 20).

Ymunodd y chwaraewr 26 oed â’r Elyrch ar fenthyg ym mis Ionawr.

Fe laniodd e’n lletchwith wrth gamu ar y bêl a chafodd ei gario oddi ar y cae ar wastad ei gefn, ac mae sgan wedi datgelu difrod i’r gewyn croesffurf blaenaf (anterior cruciate ligament).

“Mae e wedi cael anaf sy’n ddrwg, yn anffodus, mae cryn ddifrod i’w ACL,” meddai Steve Cooper.

“Mae e wedi troi allan i fod yn bopeth roedden ni wedi gobeithio na fyddai e.

“Dyna ddiwedd ei dymor e gyda ni ac mae am fod yn adferiad hir iddo fe.

“Mae’n anaf sy’n greulon beth bynnag ond yn nhermau gwireddu ei uchelgais o chwarae yn Ewrop ac ymrwymo i’r hyn rydyn ni’n ceisio’i wneud yma, mae’n anodd iawn iddo fe ac i ni.”

Dywed y bydd y clwb yn ei gefnogi ond dydy hi ddim yn glir eto a fydd e’n aros yng Nghymru neu’n dychwelyd adref i’r Unol Daleithiau.

“Mae’r sgyrsiau hynny ar y gweill ond yn bennaf oll, rydyn ni’n siomedig iawn drosto fe,” meddai Steve Cooper.

“Roedd e’n gwthio am le yn y tîm ar ôl sbel fach o fagu ffitrwydd felly mae’n anffodus iawn mewn sawl ffordd.”

Anafiadau eraill

Mae Abertawe hefyd yn aros i glywed mwy am ffitrwydd yr amddiffynnwr Ryan Bennett, ar ôl iddo fe anafu ei goes yn y gêm yn erbyn Huddersfield.

“Mae amheuon am Ryan, mae e’n ei chael hi’n anodd ag anaf i groth y goes mae e’n ceisio gwella ohoni,” meddai Steve Cooper.

“Fe gawn ni weld a fydd e’n dod drwyddi ond fyddwn ni ddim yn cymryd risgiau gyda fe er ein bod ni’n gobeithio y bydd e’n barod.”

Ond mae newyddion da o ran Brandon Cooper, yr amddiffynnwr canol, sydd wedi bod yn ymarfer gyda’r garfan ac yn agos iawn i fod ar gael i ddychwelyd i’r cae.