Mae chwaraewr canol cae Cymru, Dylan Levitt, yn gobeithio y bydd cyfnod ar fenthyg yn Croatia yn help wrth iddo geisio sicrhau ei le yng ngharfan Ewro 2020 Cymru.

Ymunodd Levitt â NK Istra 1961, sydd ar waelod Uwch Gynghrair Croatia, ar Chwefror 15 a bydd yno am weddill y tymor.

Treuliodd Levitt hanner cyntaf yr ymgyrch eleni gyda Charlton yn League One, ond cafodd ei alw’n ôl gan Manchester United, ar ôl iddo gael ei gyfyngu i bum ymddangosiad yn unig.

Roedd Levitt yn teimlo bod angen iddo chwarae pêl-droed dynion yn hytrach na gorffen y tymor gyda thîm o dan 23 Manchester United.

“Digwyddodd hyn gan fod angen i mi chwarae pêl-droed tîm cyntaf, mewn gwirionedd,” meddai Levitt.

“Yn amlwg roedd y ffenestr drosglwyddo mewn rhai mannau yn dal ar agor ac roeddwn i’n meddwl y byddai fan hyn yn lle da i mi ddod i gael rhywfaint o brofiad tîm cyntaf.

“Dwi’n meddwl mod i’n barod i chwarae pêl-droed dynion felly roedd hi’n bwysig i mi fynd allan a sicrhau pêl-droed tîm cyntaf am ail hanner y tymor.

“Dw i’n gobeithio y bydd hynny’n fy rhoi mewn sefyllfa dda i’r Ewros yn yr haf oherwydd ar ddechrau’r tymor gosodais nod o fynd i’r Ewros.

“Byddai’n golygu cymaint i bob un ohonom – fy nheulu, yn amlwg fy hun, fy ffrindiau, pobol yn ôl adref.”

Gallai chwarae i NK Istra 1961 am y tro cyntaf yn erbyn HNK Sibenik yng Nghwpan Croatia ddydd Mercher (Chwefror 24).

Atgofion o Ewro 2016

Mae’r benthyciad yn cynnig cyfle i Levitt gael munudau a cheisio ennill lle yng ngharfan Cymru’r haf hwn, dim ond pum mlynedd ar ôl gwylio tîm Chris Coleman yn cyrraedd rownd gynderfynol Ewro 2016.

“Gwyliais bob gêm, hyd yn oed yn yr ysgol,” meddai Levitt, a oedd yn 15 oed ar y pryd.

“Fe wnes i’n siŵr fy mod i’n gwylio pob un gêm. Fel yr un yn erbyn Lloegr, buom yn gwylio yn yr ysgol oherwydd, wel, Lloegr oedd o!

“Dw i’n cofio gwylio gêm Gwlad Belg yn nhŷ fy ffrind. Honna yw’r un sy’n glynu yn fy meddwl fwyaf. Robson-Kanu!

“Mae ’na ambell chwaraewr yn y garfan nawr sydd wedi chwarae yn yr Ewros ac weithiau maen nhw’n dal i siarad am y peth – bydd rhywbeth yn digwydd ar wersyll a byddan nhw fel ‘o, yda chi’n cofio pan duh, duh, duh yn yr Ewros’.

“Maen nhw’n dal i siarad amdano ac yn amlwg fydd neb yng Nghymru byth yn anghofio’r Ewros.”

Uchelgais o dorri mewn i dîm cyntaf Manchester United

Gwnaeth Levitt ei ymddangosiad cyntaf i United yng Nghynghrair Europa y tymor diwethaf yn erbyn Astana yn Kazakhstan ac mae ganddo atgofion melys o’r trip.

“Yr un peth a safodd allan i mi oedd roeddwn i’n sefyll ar y cae… ac edrych i’r chwith, ac edrych i’r dde a gweld Ethan Laird, Mason (Greenwood), Angel (Gomes), Di’Shon (Bernard), Jimmy [James Garner] – yr holl bobol sydd wedi dod drwy’r academi gyda mi.

“Dyna oedd yn ei wneud yn arbennig yn fy marn i gan ein bod ni i gyd wedi chwarae yn yr un gêm yn Ewrop a dyna oedd ein breuddwydion i gyd ers i ni fod yn saith, wyth oed.”

Y gêm honno ym mis Tachwedd 2019 yw unig ymddangosiad Levitt i’r tîm cyntaf hyd yma.

“Dw i ddim wedi meddwl am unrhyw dîm arall heblaw am Manchester United ers pan oeddwn i’n saith oed,” meddai.

“Cefais flas ohono pan wnes i fy ymddangosiad cyntaf – ond dw i eisiau mwy.

“Roeddwn i wir eisiau cael fy ngwthio i mewn i’r garfan honno. Hyd yn oed nawr, byddaf yn gwneud popeth o fewn fy ngallu i gyrraedd y lefel honno i fod yn chwaraewr tîm cyntaf Manchester United.”

Ond, am y tro, mae’r ffocws ar gadw NK Istra 1961 yn adran uchaf Croatia a chwarae ei ffordd i garfan Ewros Cymru.