Mae tîm criced dinesig Caerdydd, y Tân Cymreig wedi ychwanegu’r Cymro David Lloyd o Forgannwg, Kieron Pollard o India’r Gorllewin a Jhye Richardson o Awstralia i’r garfan ar gyfer y gystadleuaeth Can Pelen.

Roedd saith lle i’w llenwi ar ôl iddyn nhw gyhoeddi eisoes y byddai Qais Ahmad, Jonny Bairstow, Tom Banton, Ben Duckett, Ryan Higgins, David Payne, Liam Plunkett ac Ollie Pope yn dychwelyd i’r garfan ar ôl cael ei dewis ar gyfer y tymor cyntaf a gafodd ei ganslo oherwydd Covid-19.

Maen nhw hefyd wedi arwyddo Jake Ball, Ian Cockbain, Josh Cobb a Matt Critchley.

Yn y cyfamser, mae tîm y merched wedi denu Jess Jonassen, Meg Lanning a Beth Mooney o Awstralia, ynghyd â Bryony Smith, ac fe fyddan nhw’n ymuno â Katie George, Amy Gordon a Sophie Luff sydd wedi’u cadw ers y tymor diwethaf. Bydd y garfan yn parhau i ddenu chwaraewyr dros y misoedd nesaf.

Roedd disgwyl i Colin Ingram, capten tîm undydd Morgannwg, chwarae i’r Tân Cymreig fel chwaraewr lleol y tymor diwethaf ond yn dilyn newid yn y rheolau Kolpak yn sgil Brexit, mae e bellach wedi symud at yr Oval Invincibles fel chwaraewr tramor.

Mae Timm van der Gugten, bowliwr cyflym Morgannwg, wedi ymuno â’r Trent Rockets yn Nottingham, tra bod Chris Cooke, capten y clwb, wedi’i gadw gan Birmingham Phoenix.

Bydd tîm y dynion yn herio Southern Brave yn eu gêm gyntaf ar Orffennaf 27, gyda gemau’r dynion a’r merched yn cael eu cynnal ochr yn ochr â’i gilydd ac yn cael eu darlledu ar Sky a’r BBC.

Ymateb y dynion

“Alla i ddim aros i ddod i chwarae yn y Can Pelen,” meddai Kieron Pollard.

“Mae’n gystadleuaeth newydd gyffrous a dw i’n falch iawn o gael bod yn rhan ohoni.

“Roedd cynifer o chwaraewyr blaenllaw wedi cymryd rhan yn y Drafft ro’n i’n hapus iawn i fod yn ail ddewis y tu ôl iddyn nhw.

“Gyda Jhye yn ymuno hefyd, dw i’n credu bod cryn dipyn o rym yn nhîm y Tân Cymreig yn y bowlio a’r batio felly gobeithio y gallwn ni roi sioe go fawr.”

Mae’r prif hyfforddwr Gary Kirsten yn falch iawn gyda’r chwaraewyr sydd wedi ymuno â’r garfan.

“Hyd yn oed cyn i’r Drafft ddechrau, roedd yn newyddion gwych i’r tîm fod Jonny wedi ymrwymo i aros,” meddai.

“Rydyn ni wedi adeiladu ar hynny gyda dau chwaraewr o safon o dramor gyda Kieron Pollard a Jhye Richardson ac wedi denu chwaraewyr domestig da gyda Jake Ball ac Ian Cockbain.

“Rydyn ni’n teimlo ein bod ni wedi sefydlu ein hunain ar gyfer tymor cyntaf gwych yng Nghaerdydd.”

Ymateb y merched

“Dw i wir wedi cyffroi o gael chwarae yn y Can Pelen ac o gael arwain y Tân Cymreig,” meddai Meg Lanning, capten y merched.

“Mae gyda ni griw da o Aussies gyda fi, Jess a Beth ynghlwm, ochr yn ochr â llu o chwaraewyr domestig sy’n torri trwodd.

“Gyda Matthew Mott wrth y llyw, allwn ni ddim aros i gael dechrau.”

Mae Matthew Mott, cyn-brif hyfforddwr Morgannwg, wedi croesawu’r enwau mawr sydd wedi ymuno â’r garfan.

“Ar ôl gweithio mor agos â Meg, Beth a Jess yn ystod ein hamser gyda’r tîm cenedlaethol, mae’n wych eu cael nhw’n cynrychioli’r Tân Cymreig yr haf yma,” meddai.

“Maen nhw’n dod â chymaint o sgil a phrofiad i’r tîm hwn ac, ochr yn ochr â Bryony, mae gyda ni garfan gref iawn ar gyfer y gystadleuaeth sydd i ddod.”