Mae cyfres y Llewod yn erbyn De Affrica gam yn nes at gael ei chynnal yng Nghaerdydd, Caeredin, Dulyn a Llundain.

Yn ôl adroddiadau. mae’r Llewod Prydeinig a Gwyddelig wedi bod mewn trafodaethau â Llywodraeth y Deyrnas Unedig i gynnal y daith oedd i fod i gael ei chynnal yn Ne Affrica yn yr haf, yng ngwledydd Prydain.

Byddai cefnogaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cynnig sicrwydd ariannol i’r Llewod pe bai Covid-19 yn amharu ar y trefniadau.

2005 oedd y tro diwethaf i’r Llewod chwarae gartref, a hynny yn erbyn yr Ariannin yng Nghaerdydd cyn y daith i Seland Newydd.

Mae’n annhebygol y bydd y daith yn cael ei chynnal yn Ne Affrica oherwydd diffyg brechu yn y wlad, ac na fydd modd croesawu unrhyw dorfeydd i’r gemau yno eleni.

Mae’r opsiwn o lwyfannu’r daith yn Awstralia yn dal o dan ystyriaeth hefyd.

Stadiymau llawn erbyn mis Mehefin?

Daw’r newyddion wedi i Boris Johnson, prif weinidog y Deyrnas Unedig, amlinellu ei gynlluniau i lacio’r cyfyngiadau yn Lloegr.

Yn ôl y cynlluniau a gafodd eu cyhoeddi ddoe (dydd Llun, Chwefror 22), gallai stadiymau mawr yno groesawu torfeydd o hyd at 10,000 erbyn canol mis Mai, a thorfeydd llawn erbyn Mehefin 21.

Hyd yma, dydy’r gwledydd datganoledig ddim wedi cyhoeddi cynlluniau tebyg i ddychwelyd torfeydd i stadiymau.

Fodd bynnag, mae gêm gyfeillgar eisoes wedi ei threfnu yn stadiwm Murrayfield, cartref yr Alban yng Nghaeredin, yn erbyn Japan ar Fehefin 26.

Yn wreiddiol, roedd disgwyl i’r tîm o chwaraewyr o Gymru, Iwerddon, yr Alban a Lloegr adael am Dde Affrica yn fuan wedyn gan chwarae cyfres o gemau yn erbyn clybiau yno cyn chwarae tair gêm yn erbyn De Affrica ddiwedd mis Gorffennaf.

Mae undebau rygbi Cymru, Lloegr, Iwerddon a’r Alban yn awyddus i’r daith fynd yn ei blaen eleni gan y byddai gohirio yn tarfu ar eu teithiau eu hunain fel rhan o’u paratoadau cyn Cwpan Rygbi’r Byd 2023.

 

Logo'r Llewod

Deiseb yn galw am ohirio taith y Llewod tan y flwyddyn nesaf

Mae awgrym y gallai’r gyfres yn erbyn De Affrica gael ei symud i wledydd Prydain