Mae Boris Johnson wedi cyhoeddi y gallai cynllun pedwar cam weld cyfyngiadau coronafeirws Lloegr yn cael eu codi erbyn Mehefin 21.

Yn y cam cyntaf, mae disgwyl i bob disgybl yn ysgolion Lloegr ddychwelyd i’r dosbarth o Fawrth 8.

Caniateir cymdeithasu mewn parciau a mannau cyhoeddus gydag un person arall o’r dyddiad hwnnw hefyd.

Bydd cyfyngiadau’n cael eu llacio ymhellach ar Fawrth 29 pan fydd gwyliau Pasg ysgolion yn dechrau – gyda grwpiau mwy, o hyd at chwech o bobl neu ddwy aelwyd, yn cael ymgynnull mewn parciau a gerddi.

Ymhlith y mesurau eraill yn y ’map ffordd’ a nodwyd gan y Prif Weinidog mae:

– O Ebrill 12 ar y cynharaf: bydd siopau, siopau trin gwallt, salonau gwinedd, llyfrgelloedd, atyniadau awyr agored a lleoliadau lletygarwch awyr agored, fel gerddi cwrw, yn ailagor.

– O Fai 17 ar y cynharaf, caniateir i ddwy aelwyd neu grŵp o hyd at chwech o bobl gymysgu dan do a chaniateir torfeydd cyfyngedig mewn digwyddiadau chwaraeon.

– O Fehefin 21 ar y cynharaf, gellid codi’r holl gyfyngiadau sy’n weddill ar gyswllt cymdeithasol, gall digwyddiadau mwy gael eu cynnal, a gallai clybiau nos agor.

‘Ardystiad statws Covid’?

Ochr yn ochr â’r cynllun pedwar cam, lansiodd y Prif Weinidog gyfres o adolygiadau – gan gynnwys a ddylai pobol allu dangos a ydynt wedi cael brechlyn Covid-19 neu brawf negyddol.

Bydd y gwaith yn ystyried a allai ‘ardystiad statws Covid’ helpu i ailagor yr economi drwy ganiatáu i bobl sydd wedi cael pigiad neu ganlyniad prawf negyddol wneud pethau na fyddai’r rhai na allent brofi eu statws yn cael eu gwneud.

Mae swyddogion yn cydnabod bod cwestiynau moesol a moesegol yn ogystal â rhai ymarferol ar gyfer unrhyw gam o’r fath, sydd wedi bod yn ddadleuol iawn yn San Steffan.

Bydd rhaglen ymchwil yn defnyddio cynlluniau peilot sy’n cynnwys profion a mesurau eraill i gynnal digwyddiadau gyda meintiau torfol mwy.

Bydd rheolau teithio rhyngwladol hefyd yn cael eu hadolygu, gyda Mai 17 wedi’i dargedu fel y dyddiad cynharaf posibl ar gyfer gwyliau tramor.

Bydd darn arall o waith i ddod i ben erbyn Mehefin 21 yn archwilio gofynion ymbellhau cymdeithasol – gan gynnwys cofleidio ffrindiau a pherthnasau – y defnydd o fygydau wyneb, a gofynion gweithio gartref.

Mae disgwyl i’r mesurau gael eu cyflwyno am bleidlais yn Nhŷ’r Cyffredin cyn egwyl y Pasg ddiwedd mis Mawrth.