Mae disgwyl i ysgolion ail-agor a rhai chwaraeon ail-ddechrau fis nesaf o dan gynlluniau Llywodraeth San Steffan i lacio rhai o’r cyfyngiadau coronafeirws yn Lloegr.

Mae disgwyl i’r Prif Weinidog Boris Johnson ddweud wrth Aelodau Seneddol y bydd pob disgybl yn cael dychwelyd i’r dosbarth o Fawrth 8, gyda chwaraeon a gweithgareddau y tu allan yn cael ail-ddechrau hefyd.

Fe fydd cymdeithasu mewn parciau a mannau cyhoeddus gydag un person hefyd yn cael ei ganiatáu ymhen pythefnos pan fydd y rheolau’n cael eu llacio, er mwyn caniatáu i bobl gwrdd am bicnic.

Mae disgwyl i’r rheoliadau gael eu llacio ymhellach ar Fawrth 29 pan fydd gwyliau’r Pasg yn dechrau, gyda grwpiau mwy yn cael dod at ei gilydd mewn parciau a gerddi.

Fe fydd mesurau newydd sy’n caniatáu i ddwy aelwyd o ddim mwy na chwech o bobl gwrdd, gan roi mwy o hyblygrwydd i deuluoedd a ffrindiau.

Mae disgwyl i gyfleusterau chwaraeon fel tenis a phêl-fasged hefyd ail-agor erbyn diwedd mis nesaf.

Serch hynny, mae Rhif 10 yn mynnu bod y neges “arhoswch gartref” yn parhau mewn lle er gwaetha’r ffaith bod rhai cyfyngiadau’n cael eu llacio.

Y mesurau yw’r cyntaf o bedair gam y mae disgwyl i Boris Johnson amlinellu mewn datganiad yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw (Dydd Llun, Chwefror 22).

Fe fydd yn pwysleisio y bydd y cyfyngiadau’n cael eu llacio “yn bwyllog” gan ddweud y bydd y Llywodraeth yn gwneud penderfyniadau ar sail y ffigurau diweddaraf bob cam o’r ffordd.