Mae Heddlu Gwent wedi ymrwymo i “gydweithredu’n llawn” ag ymchwiliad i farwolaeth dyn 29 oed a fu farw’n fuan ar ôl dod i gysylltiad â swyddogion yr heddlu.

Bu farw Moyied Bashir wedi i swyddogion gael eu galw i’w gartref yng Nghasnewydd.

Cafodd naw o swyddogion Heddlu Gwent eu galw i ardal Maesglas yng Nghasnewydd am 09:00 ddydd Mercher, Chwefror 17, yn dilyn pryderon am les unigolyn.

Er nad oedd yn cael ei arestio, roedd dwylo a choesau wedi eu cyffio.

Pan welwyd bod ei gyflwr yn dirywio, cafodd driniaeth feddygol a’i gludo i’r ysbyty yng Nghwmbrân lle bu farw’n ddiweddarach.

Mae Heddlu Gwent wedi cyfeirio ei hun at Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC).

Mae’r ymchwilwyr annibynnol yn cynnal ymchwiliad gan ddefnyddio fideo o gamerau corff, radio’r heddlu a logiau galwadau.

‘Marwolaeth drasig’

“Mae pawb yn Heddlu Gwent yn cymryd unrhyw farwolaeth o ddifrif ac rwy’n estyn ein cydymdeimlad diffuant i deulu a ffrindiau Moyied Bashir,” meddai’r Prif Uwch-arolygydd Tom Harding, o Heddlu Gwent.

“Mae hon yn farwolaeth drasig. Rydym wedi cydweithredu’n llawn ag ymchwiliad y Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu a byddwn yn parhau i wneud hynny.

“Cysylltwyd â’r IOPC yn brydlon ar ôl marwolaeth Moyied Bashir a dechreuon nhw eu hymchwiliad annibynnol eu hunain yn gyflym.

“Roedd naw swyddog wedi ymateb i’r digwyddiad cyn i’r ambiwlans gyrraedd, a phob un wedi cymryd rhan mewn gweithdrefnau ôl-ddigwyddiad sy’n cyd-fynd ag arfer safonol mewn achosion o’r fath. Goruchwyliwyd y broses hon gan yr IOPC.

“Mae holl swyddogion Heddlu Gwent yn gwisgo camerâu fideo ac mae’r ffilm o’r digwyddiad hwn wedi’i throsglwyddo i’r IOPC a bydd yn rhan o’u hymchwiliad.

“Mae’n ddealladwy bod galwadau wedi bod gan y gymuned i ni ryddhau’r lluniau fideo yn gyhoeddus, fodd bynnag mae’r cynnwys bellach yn nwylo’r IOPC ac oherwydd hynny nid oes modd i Heddlu Gwent rhyddhau’r cynnwys.

“Rwy’n deall bod lefel uchel o bryder yn ein cymuned, ac rydym yn gwerthfawrogi eu hamynedd wrth ganiatáu i’r IOPC gynnal eu hymchwiliad ac rwy’n hyderus eu bod yn deall pryderon y gymuned ac y bydd adroddiad o’u canfyddiadau cyn gynted ag y bydd modd.

“Byddwn yn parhau i gydweithredu’n llawn â’r ymchwiliad.”

Arweiniodd marwolaeth Moyied Bashir at brotestiadau ger Gorsaf Heddlu Casnewydd wythnos diwethaf.

Mae tudalen GoFundMe a sefydlwyd gan frawd Moyied Bashir, Mohamed Bashir, wedi codi mwy na £7,000 ar gyfer ei angladd.