Mae’r rheoleiddiwr awyrennau yn yr Unol Daleithiau wedi gorchymyn United Airlines i arolygu eu holl awyrennau Boeing 777 sy’n cynnwys y math o injan oedd wedi methu yn ystod hediad dros Denver ddydd Sadwrn (Chwefror 20).

Dywed United Airlines eu bod wedi atal eu hawyrennau Boeing 777 rhag hedfan dros dro.

Daw’r cyhoeddiad ddiwrnod ar ôl i awyren United Airlines orfod glanio ar frys ym maes awyr rhyngwladol Denver ar ôl i’r injan ffrwydro yn fuan ar ôl gadael.

Roedd rhannau o’r injan wedi syrthio ar gartrefi gerllaw.

Fe lwyddodd yr awyren, oedd yn cludo 231 o deithwyr a 10 aelod o’r criw, i lanio’n ddiogel heb i unrhyw un gael eu hanafu.

Dywedodd y rheoleiddiwr yr FAA bod angen arolygu’r injan Pratt & Whitney PW4000 yn fwy rheolaidd.

United Airlines yw’r unig gwmni awyrennau yn yr Unol Daleithiau gydag injan Pratt & Whitney PW4000 yn ei fflyd, meddai’r FAA.

Dywed United Airlines y bydd yn “gweithio’n agos gyda’r FAA er mwyn gweld pa gamau eraill sydd eu hangen i sicrhau bod yr awyrennau yn cwrdd â’n safonau diogelwch llym ac y gallen nhw ail-ddechrau hedfan.”