Mae Cymdeithas yr Iaith wedi lansio cynllun newydd i ddiogelu enwau tai Cymraeg.
Fel rhan o gynllun Diogelwn mae’r mudiad iaith wedi cyhoeddi dogfennau cyfreithiol i’w defnyddio i ddiogelu enwau Cymraeg cartrefi.
Boed pobol yn bwriadu gwerthu eu cartrefi neu eisiau gwarchod yr enw ar gyfer y dyfodol, mae modd lawr lwytho’r dogfennau cyfreithiol i’w dibenion.
‘Pethnasol i bawb’
“Mae’r syniad sydd wrth wraidd y cynllun yn un syml iawn, ac yn berthnasol i bawb sy’n byw yng Nghymru ac sy’n berchen ar dŷ ag enw Cymraeg,” eglura cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, Mabli Siriol.
“Mae enwau tai Cymraeg yn aml yn ystyrlon, gyda llawer ohonyn nhw’n cynnwys cyfeiriad at ddaearyddiaeth leol yr ardal, neu at ddarn o hanes sy’n bwysig i’r teuluoedd sy’n byw ynddynt; maen nhw’n agwedd bwysig o wead diwylliannol Cymru a’r Gymraeg.
“Mae wastad yn anffodus felly pan fo’r enwau hyn yn cael eu cyfnewid am enwau Saesneg sy’n aml yn gwbl ddiystyr.
“Dylid gwarchod enwau tai a lleoedd eraill Cymraeg yn statudol a byddwn yn parhau i ymgyrchu dros hyn ond, yn y cyfamser, gobeithiwn yn fawr y bydd cymaint o bobol â phosib yn manteisio ar y cyfle hwn i ddiogelu enwau Cymraeg eu cartrefi trwy ymuno â’r cynllun.”
Pwnc llosg
Mae diogelu enwau tai wedi bod yn bwnc llosg ers blynyddoedd.
Yn 2017 gwrthodwyd cynnig Dai Lloyd, Aelod o’r Senedd Plaid Cymru tros Orllewin De Cymru ar y pryd, y dylid cyflwyno deddf a fyddai’n diogelu enwau llefydd hanesyddol yng Nghymru.
Y llynedd cafodd deiseb oedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i greu deddf i atal newid enwau Cymraeg tai yng Nghymru ei llofnodi gan dros 5,000 o bobol, a hynny mewn ychydig dros 24 awr ers i’r ddeiseb gael ei chreu.
Ond mae Cymdeithas yr Iaith yn ffyddiog y bydd modd i’r sawl sydd ar fin gwerthu ofyn i’w cyfreithiwr nawr gynnwys cymal penodol yn y cytundeb gwerthu er mwyn atal prynwyr a’u holynwyr rhag newid yr enw yn y dyfodol.
‘Cynllun digon syml’
Un o’r rhai cyntaf i gymryd rhan yn y cynllun yw Siân Northey, sydd yn y broses o werthu ei thŷ.
“Mae’n gynllun digon syml i ddiogelu enwau tai Cymraeg ond bydd yn gwneud gwahaniaeth mawr wrth i fwy a mwy o bobol gymryd rhan er mwyn diogelu’n hetifeddiaeth ieithyddol,” meddai.
“Adeiladwyd fy nghartref yn yr 17eg ganrif ac mae enw Cymraeg wedi bod arno erioed – byddai’n torri ’nghalon pe byddai enw Cymraeg gyda chymaint o hanes yn cael ei ddileu yn gwbl fympwyol ac enw Saesneg yn cael ei roi yn ei le.
“Gobeithiaf y bydd llwyddiant y cynllun yn rhoi pwysau ar y Llywodraeth i gyflwyno deddfwriaeth er mwyn diogelu enwau tai a lleoedd Cymraeg ar draws y wlad.”
5,000 yn arwyddo deiseb i atal newid enwau Cymraeg tai