Dros y penwythnos, daeth y cyhoeddiad fod Gŵyl Fwyd Caernarfon wedi’i gohirio am yr ail flwyddyn yn olynol, yn sgil y pandemig.
Ers ei sefydlu yn 2015, mae’r Ŵyl, sy’n dathlu cynnyrch a diwylliant lleol, wedi mynd o nerth i nerth gan ddenu dros 60,000 o ymwelwyr i’r dref yn 2019.
Er bod y pwyllgor gwaith yn cydnabod bod y sefyllfa yn gwella, teimlai bod yr ansicrwydd parhaus yn eu hatal rhag cynnal yr ŵyl arferol.
Y gobaith yw cynnal digwyddiadau cymunedol, llai ym mis Hydref, os yw’r rheolau’n caniatáu, a chynnal “Gŵyl werth chweil” flwyddyn nesaf.
“Nid oes sicrwydd”
“Gyda thristwch rydym yn cyhoeddi na fydd Gŵyl Fwyd Caernarfon yn cael ei chynnal yn 2021,” meddai’r trefnwyr mewn datganiad.
“Er bod y sefyllfa bresennol gyda’r feirws i’w gweld yn gwella, a chynllun brechu Llywodraeth Cymru yn mynd rhagddo’n dda iawn, nid oes sicrwydd y gallwn gynnal yr ŵyl fel yr oeddem wedi gobeithio ym mis Mai.
“Ers cychwyn y pandemig, a gohirio gŵyl 2020, rydym wedi bod yn parhau i gyfarfod fel pwyllgor drwy ddulliau digidol, a nifer ohonom hefyd wedi bod yn gwirfoddoli gyda chynllun Porthi Pawb a chynlluniau eraill yn y gymuned.
“Mae’r cysylltu diogel hyn wedi bod yn help i ni barhau i deimlo’n rhan o’r gymuned yng Nghaernarfon ac rydym yn edrych ymlaen at gael trefnu gŵyl gyhoeddus eto a dod at ein gilydd i ddathlu’r hyn sy’n gwneud y dref mor arbennig ac i groesawu ymwelwyr atom.
“Gŵyl werth chweil yn 2022”
Ar ôl gohirio’r Ŵyl llynedd, mae’r criw wedi bod yn cyd-weithio gydag unigolion a chwmnïau i greu fideos a chynnal digwyddiadau yn rhithiol, sydd i’w gweld ar eu sianel YouTube a’u gwefan.
“Rydym yn ddiolchgar iawn am y gefnogaeth hon yn ogystal â’r gefnogaeth ariannol gan Cywain i gynnal rhai o’r digwyddiadau,” meddai’r datganiad.
“Ein bwriad yn awr yw ceisio cynllunio digwyddiadau cymunedol ar gyfer yr Hydref – os bydd yn ddiogel i ni wneud hynny – gan edrych ymlaen hefyd at weithio tuag at gynnig gŵyl werth chweil yn 2022.
“Rydym yn cydymdeimlo’n fawr efo’r artistiaid a’r busnesau hynny sydd wedi colli gwaith a chyfleon masnachu dros y flwyddyn ddiwethaf, a byddwn ni fel criw gwirfoddol yn siŵr o fod allan yn y gymuned yn cynnig cymorth ble bo angen.”