Daeth cadarnhad heddiw (dydd Mercher, Mawrth 18) na fydd Gŵyl Fwyd Caernarfon yn cael ei chynnal eleni yn sgil y sefyllfa bresennol gyda’r coronafeirws.

Mae’n debyg fod yr ŵyl yn denu oddeutu 60,000 o bobol i’r dref.

Daeth 60,857 o bobol i Gaernarfon yn ystod Gŵyl Fwyd y dref y llynedd, yn ôl y trefnwyr.

“Yn sgil sefyllfa bresennol gyda’r feirws Covid-19, mae Gŵyl Fwyd Caernarfon wedi penderfynu peidio â chynnal gŵyl 2020,” meddai datganiad gan yr wŷl.

“Rydym wedi cynnal amryw o ddigwyddiadau yn ystod y flwyddyn i godi arian a bydd yr arian hwnnw yn cael ei gadw er mwyn gallu cynnig gŵyl werth chweil yn 2021.”