Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd pob ysgol yng Nghymru yn cau erbyn dydd Gwener (Mawrth 20).
Daw hyn wrth ymateb i’r coronafeirws, ac fe ddaw yn sgil camau eraill i rwystro grwpiau mawr o bobol rhag ymgynnull.
Roedd disgwyl i ysgolion gau beth bynnag ar Ebrill 3 ar gyfer gwyliau’r Pasg, ac roedd y llywodraeth wedi gwrthod y syniad tan heddiw (dydd Mercher, Mawrth 18).
Mae’r Gweinidog Addysg wedi dweud y bydd amseriad y cyhoeddiad yn helpu i sicrhau bod “ysgolion ag amser i baratoi cyn y gwyliau cynnar”.
Cau’n drefnus
“Heddiw, gallaf gyhoeddi ein bod yn cyflwyno toriad y Pasg yn gynharach ar gyfer ysgolion yng Nghymru,” meddai’r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams.
“Bydd ysgolion ledled Cymru yn cau am ddarpariaeth addysg statudol fan hwyraf ar 20 Mawrth 2020.
“Bydd y cyhoeddiad yr wyf yn ei wneud heddiw yn helpu i sicrhau bod ysgolion yn gallu cau’n drefnus a bod ganddynt yr amser i baratoi.”
Mae’r datganiad hefyd yn dweud y bydd gan ysgolion “ddiben newydd” ar ôl gwyliau’r Pasg, ac y byddan nhw’n helpu “cefnogi’r mwyaf bregus”.
Dyw’r cynlluniau yma ddim wedi cael eu cwblhau, a does dim rhagor o fanylion ar hyn o bryd. Mae disgwyl i leoliadau gofal plant aros ar agor am y tro.
Tro pedol?
Wrth siarad ddydd Llun, dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford y byddai cau ysgolion yn rhoi straen ar feddygon sydd â phlant – hynny yw, meddygon sydd wrthi’n brwydro’r haint.
Dywedodd Julie James, y Gweinidog Llywodraeth Leol, ddoe (Mawrth 17) nad oedd hi’n bryd cau’r ysgolion eto.
Daw’r cam wedi i Lywodraeth Cymru dderbyn cryn feirniadaeth am beidio cymryd camau i rwystro digwyddiadau mawr yng Nghaerdydd y penwythnos diwethaf.
Hyd yma, mae dau berson wedi marw o’r coronafeirws yng Nghymru ac mae 149 achos wedi’u cadarnhau.
Yr Alban a Lloegr
Mae’r Alban hefyd wedi cyhoeddi y bydd ysgholion yno yn cau ac mae disgwyl cyhoeddiad gan yr Ysgrifennydd Addysg am 5pm heddiw ynglyn ag ysgolion yn Lloegr.