Mae yna 13 achos newydd o’r coronafeirws yng Nghymru, gan ddod â’r cyfanswm i 149, yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Ond dydy’r ffigurau hyn ddim yn gwbl ystyrlon, gan fod y drefn o gynnal profion yn ad-hoc, ac mae’r awdurdodau wedi rhoi’r gorau i gadarnhau yr achosion fesul ardal.

Dywed Dr Robin Howe, cyfarwyddwr ymateb i’r coronafeirws yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, fod y nifer o achosion yn “debygol o fod yn uwch” na’r 149 sydd wedi eu cadarnhau.

“Mae’r coronafeirws yn cylchdroi ymhob rhan o Gymru bellach,” meddai.

“O yfory ymlaen, byddwn yn diweddaru’r nifer o achosion yn ddyddiol am 12 yr hwyr.”

“Dylai aelodau’r cyhoedd ddilyn y cyngor meddygol diweddaraf a gafodd ei ddiweddaru dydd Llun Mawrth 16.”