Fe fydd angladd y Capten Syr Tom Moore yn cael ei gynnal ddydd Sadwrn, (Chwefror 27) yn dilyn ei farwolaeth yn 100 oed.

Bu farw yn Ysbyty Bedford ar Chwefror 2 ar ôl cael prawf positif am Covid-19.

Roedd y cyn-filwr wedi dod yn adnabyddus ar ôl iddo godi mwy na £32 miliwn ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd (GIG) drwy gerdded 100 gwaith o gwmpas gardd ei gartref yn Swydd Bedford cyn ei ben-blwydd yn 100 oed.

Mewn datganiad, dywedodd ei ddwy ferch Lucy Teixeira a Hannah Ingram-Moore y bydd y gwasanaeth yn “fach ac ar gyfer y teulu” yn unig oherwydd y pandemig.

Maen nhw wedi galw ar y cyhoedd i barhau i gefnogi’r GIG drwy aros adre.

“Mae cymaint o bobl wedi cysylltu gyda ni yn gofyn beth allen nhw wneud i gofio ein tad, felly ry’n ni wedi dechrau llyfr cydymdeimlad ar-lein.

“Fe fydd pobl hefyd yn gallu cyfrannu at Sefydliad Capten Tom, plannu coeden er cof amdano neu gyfrannu at elusen o’ch dewis.”