Fe fydd dyn 56 oed yn mynd gerbron ynadon heddiw (Dydd Llun, Chwefror 22) ar gyhuddiad o gynnau tân yn fwriadol gyda’r bwriad o beryglu bywyd.

Cafodd Carl Baden Jones ei gyhuddo yn dilyn tân mewn eiddo yn Ffordd Meigan, Biwmares ddydd Sadwrn (Chwefror 20).

Mae hefyd wedi cael ei gyhuddo o drosedd ychwanegol o dorri gorchymyn atal.

Bydd yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Llandudno heddiw.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Brian Kearney: “Hoffwn ddiolch i’n cydweithwyr yn y gwasanaeth tân am eu hymdrechion i atal y tân hwn rhag lledaenu, y tystion sydd wedi dod ymlaen a chynorthwyo’r ymchwiliad, a rhoi sicrwydd i’r cyhoedd bod hwn yn ddigwyddiad ynysig yn ein cymuned.”