Mae Emlyn Dole, Arweinydd Cyngor Sir Gâr, wedi galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod buddsoddi mewn amddiffynfeydd llifogydd yn flaenoriaeth strategol genedlaethol.

Daw hyn ar ôl penwythnos arall o lifogydd sydd wedi effeithio ar gartrefi a busnesau mewn yng Nghastellnewydd Emlyn, Llanybydder, Pont-tyweli, Llandysul, Pontargothi a Llangadog.

Dywedodd Emlyn Dole fod angen strategaeth genedlaethol o ran amlder a dwyster llifogydd.

“Unwaith eto mae’r glaw a llifogydd wedi creu anawsterau mawr i gartrefi, busnesau a chymunedau ac mae rhai yn wynebu’r broses o lanhau a dechrau unwaith eto,” meddai.

“Mae Sir Gaerfyrddin wedi cael ei tharo sawl tro ers Storm Callum (yn 2018). Y penwythnos hwn, cyrhaeddodd afonydd lefelau a oedd yn beryglus o agos at y lefelau a gyrhaeddwyd yn ystod Storm Callum.

“Mae’n amlwg bod llifogydd yn digwydd yn amlach ac yn ddwysach.

“Ni all barhau fel hyn – mae rhywbeth a oedd yn digwydd unwaith bob 100 mlynedd bellach wedi digwydd pedair gwaith mewn blwyddyn a hanner.

“Rhaid i lifogydd fod yn flaenoriaeth genedlaethol strategol.

“Mae arnom angen buddsoddiad mewn amddiffynfeydd rhag llifogydd – rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud hyn yn flaenoriaeth genedlaethol strategol.”

Gwaith glanhau “yn parhau”

Diolchodd Emlyn Dole i weithlu’r cyngor a gefnogodd gymunedau dros y penwythnos, a dywedodd y bydd y gwaith glanhau, asesiadau diogelwch, a gwaith cynorthwyo yn parhau.

Dywedodd y bydd asesiad llawn o’r difrod a achoswyd yn cael ei gynnal, a bydd archwiliadau o’r ffyrdd, ymylon ffyrdd. a’r pontydd gafodd eu difrodi yn cael eu cwblhau erbyn diwedd yr wythnos.

Mae cronfa gymorth wedi’i sefydlu ar gyfer busnesau i’w helpu i adfer yn sgil y difrod a’r tarfu a achoswyd gan y llifogydd.

“Hoffwn ddiolch i staff sydd wedi gweithio bob awr o’r dydd i ymateb i lifogydd y penwythnos ac sy’n gweithio’n galed yn sgil y tywydd gwael i glirio’r rhannau o’r sir yr effeithiwyd arnynt,” meddai Emlyn Dole.

“Mae cronfa gymorth wedi’i sefydlu i helpu busnesau i adfer yn dilyn y difrod a byddwn yn annog y rhai yr effeithiwyd arnynt i gysylltu â ni.”

“Byddwn yn parhau i reoli ac ymateb yn rhagweithiol i berygl llifogydd ledled Cymru.”

Mae Llywodraeth Cymru wedi amddiffyn ei record ar gefnogaeth llifogydd. Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydyn ni’n gwybod bod llifogydd mawr yn drychinebus i gymunedau.

“Rhwng 2016 a 2021, mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi dros £390m i helpu i reoli perygl llifogydd.

“Yn dilyn llifogydd yn 2020, darparwyd mwy na £4.6m ar gyfer atgyweiriadau i awdurdodau yr effeithiwyd arnynt gan lifogydd, a chyllid grant o 100% ar gyfer paratoi cynlluniau atal llifogydd newydd.

“Ym mis Ebrill 2020, cyhoeddwyd £55 miliwn o weithgareddau rheoli perygl llifogydd ledled Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol hon.

“Mae hyn yn cynnwys £28 miliwn o wariant cyfalaf ar brosiectau newydd a chynnal a chadw asedau sy’n bodoli eisoes.

“Ers hynny rydym wedi neilltuo £6.5m i gefnogi awdurdodau lleol a phobl yr effeithiwyd arnynt gan lifogydd diweddar yn ystod cyfyngiadau Covid-19 – mae hyn yn caniatáu i Awdurdodau Lleol hawlio costau ymateb i lifogydd, gan gynnwys cymorth i breswylwyr i fynd i’r afael â chost uniongyrchol difrod dŵr a disodli eiddo angenrheidiol.

“Gall busnesau yr effeithir arnynt gael hyd at £2,500 o gyllid brys gan Lywodraeth Cymru.

“Mae hyn yn ychwanegol at fwy na £21.5m rydym yn ei ddarparu i helpu cynghorau ledled y wlad i drwsio difrod llifogydd i ffyrdd, pontydd a llwybrau.

“Byddwn yn parhau i reoli ac ymateb yn rhagweithiol i berygl llifogydd ledled Cymru.

“Lansiwyd ein Strategaeth Genedlaethol newydd ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yr hydref diwethaf, ac mae’n amlinellu sut rydym yn bwriadu gweithio ochr yn ochr â phartneriaid i reoli peryglon llifogydd hirdymor ledled y wlad.”

Llifogydd Caerfyrddin

Plaid Cymru’n galw am fuddsoddiad er mwyn gwarchod cymunedau rhag llifogydd

Daw sylwadau Adam Price, arweinydd y blaid, wrth i rannau helaeth o Gymru ddioddef llifogydd yn sgil glaw trwm eto
Llifogydd Caerfyrddin

Llifogydd yn taro rhannau helaeth o Gymru

Rhybudd oren wedi bod mewn grym, a’r Ceidwadwyr Cymreig yn ymateb yn chwyrn