Mae heddwas wedi derbyn iddi gamymddwyn yn difrifol ar ôl torri rheolau’r cyfyngiadau drwy fynd i barti tŷ ac yna crasio ei char tra’n yfed a gyrru.

Methodd PC Tasia Stephens, 24, brawf anadlu ar ôl dreifio ei char i mewn i adeilad llai na dwy filltir o’r digwyddiad teuluol yn oriau mân dydd Sul (Ebrill 26) y llynedd.

Ddydd Llun (Chwefror 22), cafodd gwrandawiad camymddwyn wybod bod y swyddog Heddlu De Cymru wedi mynd i barti yng nghartref ei modryb yn Heol Conwy, Treorci, De Cymru.

Ar adeg y digwyddiad, roedd y Deyrnas Unedig gyfan o dan reolau aros gartref llym, gyda phobol yng Nghymru wedi’u gwahardd rhag cyfarfod naill ai dan do neu yn yr awyr agored â phobol nad oeddent yn byw gyda nhw.

Dywedodd y cyflwynydd achos, Barney Branston, wrth y gwrandawiad ym Mhencoed, Pen-y-bont ar Ogwr, fod PC Stephens wedi mynychu’r parti tŷ yn groes i gyfyngiadau coronafeirws.

Ychwanegodd Barney Branston hefyd fod PC Stephens “wedi gwneud y penderfyniad i yrru er ei bod hi wedi bod yn yfed” gan ddangos “dim ystyriaeth i ddefnyddwyr eraill y ffordd”.

Dywedwyd bod PC Stephens wedi dechrau yfed alcohol yn y parti lle dywedodd aelodau o’i theulu wrthi am honiadau rhyw hanesyddol yn erbyn aelod o’r teulu.

Ond er ei bod yn ymddangos ei bod mewn “hwyliau da” pan adawodd am hanner nos, dywedodd Barney Branston fod PC Stephens “wedi gwneud penderfyniad gwael iawn i estyn allweddi ei char a gyrru ei char”.

Roedd wedi gyrru tua 500 metr i lawr y ffordd pan gafodd ei cherbyd ei adnabod gan gydweithwyr heddlu ar ddyletswydd a’i stopiodd am sgwrs fer, ond nid oedd ganddynt unrhyw syniad ei bod hi o dan ddylanwad alcohol.

“Fe gariodd ati i yrru am tua 1.6 milltir cyn dreifio i mewn i adeilad yn yr oriau mân,” meddai.

Methodd Pc Stephens brawf anadl ar ochr y ffordd, a chafodd ei chludo i orsaf heddlu lle gwelwyd bod ganddi 90 miligram o alcohol mewn 100 mililitr o waed, gyda’r terfyn cyfreithiol i yrru yn 35mg o alcohol.

Ar 10 Gorffennaf y llynedd plediodd yn euog i yrru dan ddylanwad alcohol yn Llys Ynadon Merthyr Tudful lle cafodd ei rhyddhau’n amodol am 12 mis a’i gwahardd rhag gyrru am 15 mis.

Derbyniodd hefyd fod pob un o’r honiadau’n ymddygiad sy’n gyfystyr â chamymddwyn difrifol.

Mae’r achos yn parhau.