Mae Rhif 10 Downing wedi wfftio honiadau “anghywir” bod dyweddi Boris Johnson, Carrie Symonds, yn chwarae rhan flaenllaw yn y Llywodraeth.
Mae melin drafod y Torïaid, y ‘Bow Group’, wedi galw am ymchwiliad annibynnol i’w dylanwad yn Rhif 10 yn sgil sibrydion parhaus am densiynau wrth wraidd y Llywodraeth.
Ond wfftio’r honiadau wnaeth llefarydd y Prif Weinidog, Allegra Stratton, gan ddweud na fyddai’n ymateb i alwad y felin drafod.
Dywedodd y ‘Bow Group’ y dylai ymchwiliad edrych ar “ddylanwad posibl” Carrie Symonds o ran penodiadau’r Llywodraeth.
Daw ar ôl i ddau i’r Farwnes Finn a Henry Newman gael eu penodi’n gynghorwyr allweddol yn Rhif 10 – mae’r ddau â chysylltiad blaenorol â Carrie Symonds.
Roedd hynny yn dilyn ymadawiad Dominic Cummings, Lee Cain, ac Oliver Lewis o Rif 10 yn y misoedd diwethaf.
Dywedodd Ben Harris-Quinney, cadeirydd y ‘Bow Group’, nad oes gan Carrie Symonds “unrhyw rôl swyddogol yn y Blaid Geidwadol na’r Llywodraeth ar hyn o bryd.
“Ac eto mae adroddiadau cyson yn y wasg yn awgrymu bod Carrie Symonds yn chwarae rhan ganolog yn y gwaith o redeg y wlad, heb unrhyw awdurdod nac atebolrwydd i wneud hynny.”
Cael ei herlid am fod yn ddynes?
Awgrymodd yr Aelod Seneddol Ceidwadol, Laura Trott, y gallai’r ffaith fod Carrie Symonds yn ddynes fod wrth wraidd y sibrydion.
Dywedodd Laura Trott, a fu’n gweithio yn Uned Bolisi Rhif 10 i David Cameron, ar BBC Radio 4: “Roeddwn i’n arfer gweithio gyda Carrie, mae hi’n berson hynod dalentog a galluog ac rwy’n credu y dylid rhoi rhywfaint o ystyriaeth… A fyddai rhai o’r pethau hyn yn cael eu dweud am ddyn.
“Mae’n annymunol iawn ac rwy’n credu ei fod yn anhygoel o ddiangen.”