Bydd prif ymgynghorydd dadleuol Boris Johnson, Dominic Cummings, yn gadael ei swydd yn Stryd Downing erbyn diwedd y flwyddyn.

Dywedodd Mr Cummings wrth y BBC fod “adroddiadau amdanaf fi’n bygwth ymddiswyddo yn cael eu dyfeisio” ar ôl cryn ddyfalu y byddai’n dilyn y cyfarwyddwr cyfathrebu, Lee Cain, wrth adael Rhif 10.

Fodd bynnag, dywedodd nad yw ei “sefyllfa wedi newid ers fy mlog ym mis Ionawr” pan ysgrifennodd ei fod yn gobeithio gadael erbyn diwedd 2020.

Daw hyn ddiwrnod yn unig ar ôl i ddadlau chwerw yn Rhif 10 arwain at ymddiswyddiad y cyfarwyddwr cyfathrebu, Lee Cain.

Roedd wedi cael cynnig swydd fel pennaeth staff Boris Johnson, gan achosi anghydfod ymhlith Torïaid a chylch mewnol y Prif Weinidog.

Deellir bod Carrie Symonds, partner y Prif Weinidog, wedi arwain y protestio yn erbyn penodi Cain i’r swydd allweddol.

Ac yn y pen draw, cyhoeddi ei ymadawiad o Rif 10, yn hytrach na dyrchafiad, wnaeth Cain.

Mae Cummings a Cain yn gynghreiriaid gwleidyddol agos, ar ôl cydweithio ers ymgyrch Brexit.

Mae adroddiadau bod Cummings yn anhapus â’r ffordd yr oedd ei ffrind wedi cael ei drin.

Ail-lunio’r tîm yn Rhif 10?

Mae ASau Ceidwadol wedi annog y Prif Weinidog i ail-lunio’r tîm yn Downing Street ac ailgysylltu â’r blaid seneddol – mae rhai ohonynt yn teimlo fod Johnson wedi cael ei “golli” i ymgynghorwyr dros y flwyddyn ddiwethaf.

Dywedodd Syr Charles Walker, is-gadeirydd Pwyllgor 1922, wrth Newsnight ar BBC Two: “Os yw Boris, y Prif Weinidog, yn cael swydd y pennaeth staff yn iawn – cael y person iawn yn y safle hwnnw – gall [roi ei hun] yn ôl yng nghanol plaid seneddol y Ceidwadwyr.

“Rydyn ni’n teimlo ein bod wedi’i golli am y flwyddyn ddiwethaf. Rydym am ei gael yn ôl – mae’n perthyn i ni, nid i’r ymgynghorwyr”.

Beirniadaeth ymysg ASau Ceidwadol

Mae’r holl sefyllfa wedi arwain at feirniadaeth ymysg ASau Ceidwadol.

“Dylai’r Llywodraeth, a Stryd Downing yn arbennig, fod yn canolbwyntio ei holl ymdrechion ar y pandemig ac ar ddiwedd Brexit, ac a dweud y gwir mae hyn yn ymyrraeth na ellir ac na ddylid ei chaniatáu ac mae’n rhaid i’r Prif Weinidog fynd i’r afael â hyn.” meddai Syr Roger Gale, aelod o’r meinciau cefn Ceidwadol.

Mynnodd llefarydd swyddogol y Prif Weinidog, James Slack, a gadarnhaodd y byddai’n cymryd lle Cain pan fydd yn gadael yn y flwyddyn newydd, nad oedd sylw Boris Johnson yn cael ei dynnu oddi ar yr argyfwng cenedlaethol.

“Rydych wedi gweld gan y Prif Weinidog yr wythnos hon ei fod yn canolbwyntio’n llwyr ar gymryd yr holl gamau sydd eu hangen i baratoi’r wlad i guro’r coronafeirws,” meddai.