Mae nifer y swyddi gwag ar ei lefel uchaf ers dechrau’r clo cyntaf ym mis Mawrth, mae ystadegau’n dangos.
Dywedodd y Cydffederasiwn Recriwtio a Chyflogaeth fod 1.36 miliwn o hysbysebion swyddi ledled y Deyrnas Unedig yn wythnos gyntaf mis Tachwedd – y mwyaf ers dechrau mis Mawrth.
Mae gwahaniaethau rhanbarthol mawr yn nifer y swyddi sydd ar gael, mae’r ffigurau’n awgrymu.
Mae gan hanner y Deyrnas Unedig niferoedd uwch o hysbysebion swyddi nag ym mis Mawrth – tra bod gan rannau eraill lai o hyd.
Ac mae’r ymchwil wedi dangos bod Cymru ymhlith y cenhedloedd a’r rhanbarthau sy’n arwain yr adferiad swyddi, gyda gogledd-orllewin Lloegr. Llundain sydd ar ei hôl hi, meddai’r adroddiad.
Mae’r cynnydd o 33% wedi’i weld mewn hysbysebion swyddi yng Nghymru rhwng mis Mawrth a mis Hydref.
Mae rolau ym maes adeiladu, logisteg, a bwyd a diod wedi gwella’n dda, tra bod lletygarwch a hamdden yn parhau i fod ar lefelau sylweddol is nag ym mis Mawrth, yn ol yr ymchwil.
Dywedodd Prif Weithredwr y Cydffederasiwn Recriwtio a Chyflogaeth, Neil Carberry: “Dangosodd niferoedd diweithdra a diswyddo yn gynharach yr wythnos hon fod hon yn foment anodd i’n marchnad swyddi, ond gwyddom hefyd fod swyddi’n cael eu creu bob amser ac fel y dengys y data hwn, mae gobaith i’w weld mewn llawer o leoedd a sectorau.
“Yr hyn y mae angen i ni ei wneud nawr yw cefnogi busnesau sy’n gallu creu swyddi, a helpu pobl sydd wedi colli gwaith i drosglwyddo i’r rolau newydd hynny.”