Fe fydd yr MCC, y corff sy’n gwarchod cyfreithiau criced, yn adolygu’r hawl i fowlio pelenni byrion a defnyddio poer ar beli.
Daw hyn yn ystod cyfnod Covid-19 ac ar adeg pan fo mwy o sylw’n cael ei roi i gyfergydion yn y byd chwaraeon.
Yn ystod cyfarfod o bwyllgor criced byd-eang yr MCC ddechrau’r flwyddyn, fe wnaethon nhw gydnabod eu dyletswydd i sicrhau bod y gêm yn ddiogel yn dilyn ymchwil i gyfergydion yn y byd chwaraeon ehangach.
Fe wnaeth y pwyllgor gydnabod fod bowlio pelenni byrion yn rhan allweddol o dactegau’r gêm, yn enwedig ar lefel elit, ond fe wnaethon nhw gytuno i gylchredeg holiadur i gasglu barn amryw o grwpiau.
Bydd y data’n cael ei gasglu ar ddiwedd mis Mehefin ac yn cael ei drafod yn ail hanner y flwyddyn ac unrhyw argymhellion yn cael eu cyflwyno erbyn mis Rhagfyr.
Maen nhw hefyd wedi trafod y posibilrwydd o barhau’n barhaol â’r gwaharddiad ar ddefnyddio poer ar beli criced yn ystod y cyfnod Covid-19, a byddan nhw hefyd yn casglu barn chwaraewyr am hyn.