Phil Hughes
Mae’r batiwr o Awstralia, Phil Hughes wedi marw, deuddydd wedi iddo gael ei daro yn ei ben gan bêl yn ystod gêm.

Syrthiodd Hughes, 25, yn anymwybodol wrth lain y Sydney Cricket Ground tra’n batio i dîm De Awstralia yn erbyn New South Wales yng nghystadleuaeth y Sheffield Shield.

Cafodd y batiwr ei daro yn ei ben wrth iddo geisio taro bownsar gafodd ei fowlio gan Sean Abott.

Cafodd driniaeth frys cyn cael ei gysylltu i beiriant cynnal bywyd.

Ond cyhoeddwyd heddiw ei fod wedi marw yn Ysbyty St Vincent’s gyda’i deulu a ffrindiau agos o’i gwmpas.

Mae llu o deyrngedau gan gricedwyr a chefnogwyr wedi cael eu rhoi ar wefannau cymdeithasol.

Fe fydd munud o dawelwch cyn ail ddiwrnod y gêm brawf rhwng Pacistan a Seland Newydd yn Sharjah heddiw er cof amdano.
Fe fyddai Hughes wedi dathlu ei ben-blwydd yn 26 ddydd Sul.