Alex Cuthbert
Mae asgellwr Cymru Alex Cuthbert wedi mynnu bod Cymru yn agosáu at drechu un o gewri hemisffer y de yn fuan, wrth iddyn nhw baratoi i herio De Affrica dydd Sadwrn.

Collodd Cymru yn erbyn Seland Newydd yr wythnos diwethaf er eu bod nhw 16-15 ar y blaen gydag 11 munud i fynd, ac fe gawson nhw hefyd eu trechu gan Awstralia yng ngêm gyntaf yr hydref.

Fe arweiniodd hynny at gwestiynau yn cael eu gofyn yn gynharach yn yr wythnos am y pwysau sydd ar ysgwyddau Warren Gatland, wrth i’r rhediad gwael honno o ganlyniadau yn erbyn goreuon hemisffer y de barhau.

Gwybod beth i’w ddisgwyl

Yn ôl Cuthbert, fodd bynnag, mae’r tîm yn hyderus y gallan nhw guro De Affrica o’r diwedd am y tro cyntaf ers 1999 dydd Sadwrn, ar ôl dod mor agos i wneud hynny yn yr haf ac yng Nghwpan y Byd 2011.

“Maen nhw’n dîm hollol wahanol i Seland Newydd,” meddai Cuthbert. “Pan mae’r All Blacks gyda’r bêl chi ddim yn gwybod beth maen nhw am ei wneud achos bod ganddyn nhw gymaint o allu ymysg eu blaenwyr a’u holwyr.

“Mae De Affrica yn mynd amdanoch chi fwy. Mae eu blaenwyr nhw wrth eu bodd yn chwalu’r pac arall.

“Fe fyddan nhw’n wyliadwrus o’n holwyr ni, ac os gawn ni’r bêl yn ein dwylo fe allwn ni eu brifo nhw.

“Rydyn ni’n gwybod y gallwn ni eu herio nhw, fe ddangoson ni hynny yn yr haf.”

‘Mwy neu lai yno’

Fe fydd Gatland yn enwi’i dîm i herio De Affrica fory, wrth iddo aros i weld a fydd chwaraewyr fel George North, Gethin Jenkins, Leigh Halfpenny a Rhys Webb wedi gwella o anafiadau.

Ni fydd Richard Hibbard a Paul James ar gael i Gymru chwaith gan eu bod nhw’n chwarae i glybiau yn Lloegr, a dyw’r gêm hon ddim yn cael ei chwarae o fewn y cyfnod swyddogol ar gyfer gemau rhyngwladol.

Ond mae De Affrica hefyd yn methu rhai o’u chwaraewyr, gan gynnwys Bryan Habana a JP Pietersen, sydd wedi cael eu galw nôl i’w clybiau.

Ac mae Cuthbert yn hyderus bod y gêm yn erbyn Seland Newydd wedi dangos nad yw Cymru’n bell o drechu yn o gewri hemisffer y de, llai na blwyddyn nes Cwpan y Byd.

“Roeddwn i a phawb arall yn meddwl y bydden ni’n mynd ‘mlaen i ennill [yn erbyn Seland Newydd] gydag 11 munud i fynd,” cyfaddefodd Cuthbert.

“Roedden ni’n teimlo eu bod nhw wedi taflu lot tuag atom ni, a’n bod ni wedi llwyddo i ddelio â hynny.

“Roeddech chi’n gallu gweld eu bod nhw’n mynd yn rhwystredig ar adegau, ac roedd angen i ni jyst reoli’r gêm.

“Fe fydden ni’n poeni tase ni wedi cael crasfa o 40 pwynt. Rydyn ni mwy neu lai yno.”