Mae’r Gleision wedi cadarnhau eu bod wedi arwyddo’r canolwr Tom Isaacs o Gaerloyw ar gytundeb fydd yn para nes haf 2016.

Dim ond eleni y symudodd Isaacs o’r Gweilch i Gaerloyw, ar ôl dechrau ei yrfa gyda rhanbarth y Dreigiau.

Bydd nawr yn dychwelyd i Gymru i geisio hawlio lle yn nhîm Mark Hammett, sydd wedi cael dechrau siomedig i’r tymor yn y Pro12 hyd yn hyn.

Symud gartref

Fe ddechreuodd Isaacs ei yrfa fel mewnwr cyn cael ei symud i’r canol, ac mae’r gŵr 27 oed wedi ennill capiau dros dîm dan-20 Cymru yn ogystal â’r tîm saith bob ochr.

Ac fe ddywedodd y chwaraewr ei fod yn edrych ymlaen at bennod newydd yn ei yrfa rygbi yn y ddinas ble cafodd ei eni.

“Fi wrth fy modd yn arwyddo gyda’r Gleision ac yn edrych ymlaen at fy nyfodol gyda’r rhanbarth,” meddai Tom Isaacs.

“Hoffwn ddiolch i bawb yng Nghaerloyw am eu cefnogaeth tra mod i yn Lloegr. Mae Caerloyw yn glwb rygbi traddodiadol gwych, ond ar ôl newid yn yr hyfforddwyr ar ôl i mi symud yno, ches i ddim llawer o gyfleoedd y tymor hwn.

“Fi eisiau chwarae rygbi yn rheolaidd a doeddwn i methu gwrthod y cyfle i ddychwelyd i fy ninas gartref. Fe chwaraeais i fy rygbi i Ysgol Glantaf a Gogledd Llandaf cyn fy nghyfnod gyda Chlwb Rygbi Caerdydd.”