Mae Steve Davies a Jack Brooks wedi torri record i Wlad yr Haf yn erbyn Morgannwg gyda phartneriaeth o 107 am y wiced olaf, wrth i’r Saeson gael eu bowlio allan am 296 ar ddiwrnod cynta’r tymor cyfyngedig.
Erbyn diwedd y dydd, roedd Morgannwg wedi sgorio wyth heb golli wiced.
Ar ôl galw’n gywir a batio’n gyntaf yng ngêm gyntaf Tlws Bob Willis, dechreuodd Gwlad yr Haf yn gadarn gyda Tom Lammonby ac Eddie Byrom wrth y llain yn erbyn bowlio Michael Hogan a Ruaidhri Smith.
Nid tan i Forgannwg droi at Graham Wagg, y bowliwr cyflym llaw chwith, y cawson nhw fawr o lwyddiant, ac fe gipiodd e wiced gynta’r tymor pan darodd y bêl ymyl bat Byrom cyn taro’r wiced, a’r sgôr yn 36 am un ar ôl pymtheg pelawd.
Gallai Lammonby fod wedi dilyn yn y belawd ganlynol, ond fe wnaeth Charlie Hemphrey ollwng ei afael ar ddaliad yn y slip oddi ar fowlio Marchant de Lange, cyn i’r bowliwr wasgaru ffyn y capten Tom Abell i adael y tîm cartref yn 41 am ddwy.
Daeth trydedd wiced i Forgannwg yn fuan cyn cinio, wrth i Dan Douthwaite waredu James Hildreth, a gafodd ei ddal yn sgwâr ar yr ochr agored gan Kiran Carlson, a’r sgôr yn 92 am dair amser cinio.
Ar ddechrau’r tymor nesaf, roedd angen chwe wiced ar Michael Hogan i gyrraedd 600 yn ei yrfa dosbarth cyntaf, a daeth y gyntaf ohonyn nhw pan darodd e goes Lammonby i adael y Saeson yn 95 am bedair.
Gallai Steve Davies fod wedi’i ddal yn y slip, ond fe wnaeth Hemphrey ollwng ail ddaliad oddi ar fowlio Ruaidhri Smith gyda’r sgôr yn 122 am bedair. Daeth pumed wiced yn y pen draw, pan darodd George Bartlett ergyd lac yn sgwâr i’r ochr agored at Kiran Carlson oddi ar fowlio Smith, a’r sgôr yn 139 am bump.
Ac fe gwympodd y chweched a’r seithfed wicedi o fewn dim o dro hefyd, wrth i Dan Douthwaite daro coes Craig Overton o flaen y wiced am ddau, a Roelof van der Merwe yn colli’i wiced yn yr un ffordd oddi ar fowlio Smith, a’r sgôr yn 143 am saith.
Y brawd Overton arall, Jamie, oedd yr wythfed batiwr allan, pan gafodd ei ddal yn y slip gan Hemphrey am i roi wiced arall i Smith, a’r sgôr yn 149. Ond fe wnaeth y daliwr ollwng trydydd daliad yn fuan cyn te, gyda Steve Davies yn goroesi pelen gan Marchant de Lange, a’r sgôr yn 164 am wyth erbyn yr egwyl.
Pan gafodd Josh Davey ei ddal yn sgwar ar ochr y goes gan Douthwaite oddi ar fowlio de Lange, roedd Gwlad yr Haf yn 189 am naw.
Wrth i Jack Brooks ymuno â Steve Davies wrth y llain, fe lwyddon nhw i sicrhau parchusrwydd i Wlad yr Haf a lle iddyn nhw eu hunain yn y llyfrau hanes cyn i Graham Wagg ddal Brooks oddi ar ei fowlio’i hun, a’r Saeson i gyd allan am 296.