Fe fydd tîm Morgannwg yn dechrau eu tymor criced sirol heddiw – ar ôl oedi o bedwar mis yn sgil y coronafeirws – wrth iddyn nhw deithio i Taunton i herio Gwlad yr Haf yn Nhlws Bob Willis.

Y gystadleuaeth hon sy’n disodli Pencampwriaeth y Siroedd, y gystadleuaeth pedwar diwrnod.

Yn hytrach na’r ddwy adran arferol, mae’r 18 sir wedi’u rhannu’n grwpiau rhanbarthol o chwe sir yr un, ac maen nhw’n herio’i gilydd unwaith, sy’n golygu cyfanswm o bum gêm.

Bydd y ddwy sir orau o blith y 18 yn mynd yn eu blaenau i’r ffeinal ar ddiwedd y tymor.

Gêm ddigon anodd sydd gan Forgannwg i ddechrau, wrth iddyn nhw herio’r tîm oedd yn ail yn Adran Gynta’r Bencampwriaeth a’r tîm yr oedd Matthew Maynard yn brif hyfforddwr arnyn nhw am dair blynedd.

“Bydd hi’n her yn erbyn sir sydd wedi bod ymhlith y goreuon dros y blynyddoedd dwytha,” meddai.

“Dw i isio i’r tîm fod yn gystadleuol dros ben fel bod gynnon ni syniad lle’r ydan ni’n sefyll ar ddiwedd y pedwar diwrnod.”

Bydd yr holl gemau yng Nghaerdydd yn cael eu ffrydio’n fyw ar y we.

Roedd disgwyl y byddai cefnogwyr yn cael mynd i rai gemau yn ystod y tymor, ond dydy hi ddim bellah yn glir beth yw’r sefyllfa yn dilyn cynnydd mewn achosion o’r feirws mewn rhai ardaloedd.

Chwaraewyr ifanc addawol

Yn absenoldeb Marnus Labuschagne, y batiwr tramor o Awstralia, a’r capten undydd Colin Ingram, fe fydd rhai o’r to iau o Gymru’n gobeithio cael cyfle yn ystod y tymor byr.

A bydd cyfleoedd ychwanegol hefyd yn sgil absenoldeb y gogleddwr David Lloyd, sydd wedi torri’i droed, a’r bowliwr cyflym Timm van der Gugten sydd wedi anafu ei ffêr.

Un sydd wedi dal sylw’n ddiweddar yw’r bowliwr 17 oed Harry Friend, oedd wedi dysgu’i grefft yn Ysgol Trefynwy o dan hyfforddiant Steve James, cyn-gapten Morgannwg ac a darodd 67 yn erbyn y tîm cyntaf mewn gêm baratoadol yn ddiweddar.

Un arall a allai gael ei gyfle yw Alex Horton, y wicedwr 16 oed o Drecelyn sydd newydd lofnodi ei gytundeb cyntaf gyda’r sir fydd yn ei gadw yng Ngerddi Sophia am o leiaf bum mlynedd.

Bydd Kiran Carlson, y batiwr ifanc o Gaerdydd, yn batio’n drydydd, tra y gallai Callum Taylor, y chwaraewr amryddawn o Gasnewydd, chwarae mewn gêm dosbarth cyntaf am y tro cyntaf erioed.

O safbwynt Gwlad yr Haf, fe ddaeth cadarnhad ar fore cynta’r tymor, cyn i’r gêm ddechrau, y bydd Jamie Overton, bowliwr cyflym Lloegr, yn gadael y sir ar ddiwedd y tymor ac yn ymuno â Surrey.

Carfan Morgannwg: C Cooke (capten), K Bull, K Carlson, T Cullen, M de Lange, D Douthwaite, C Hemphrey, M Hogan, B Root, N Selman, R Smith, C Taylor, G Wagg

Carfan Gwlad yr Haf: T Abell (capten), G Bartlett, J Brooks, E Byrom, J Davey, S Davies, N Gilchrist, B Green, J Hildreth, T Lammonby, R van der Merwe, C Overton, J Overton

Does dim lle yn nhîm Morgannwg i Callum Taylor na Tom Cullen, tra bod Nathan Gilchrist a Ben Green wedi’u hepgor o dîm Gwlad yr Haf.

Sgorfwrdd