Mae Heerenveen, clwb o’r Iseldiroedd sy’n chwarae yn yr Eredivisie, wedi arwyddo gôl-geidwad Abertawe, Erwin Mulder.

Bu ceidwad y pyrth yn chwarae i Heerenveen rhwng 2015 a 2017.

“Rydym wedi llwyddo i ddenu gôl-geidwad hynod brofiadol,” meddai rheolwr technegol y clwb, Gerry Hamstra.

“Mae Erwin yn adnabod y clwb, mae’n adnabod yr Eredivisie ac yn dod gyda lot fawr o brofiad o chwarae ym Mhrydain.”

Chwaraeodd Erwin Mulder 33 o weithiau i Abertawe dros gyfnod o dair blynedd gyda’r Elyrch.