Gwelwyd ymdrech ddewr gan dîm Caerdydd neithiwr, gan ennill 2-1 yn Craven Cottage… ond doedd hynny ddim yn ddigon ar ôl colli 2-0 yn y cymal cyntaf.

Sgoriodd Curtis Nelson gôl gynnar i godi’r gobeithion, ond sgoriodd Fulham funud yn ddiweddarach. Ac er i Lee Tomlin roi’r fuddugoliaeth iddyn nhw ar y noson, fe fethodd Robert Glatzel gyfle a allai fod wedi anfon y gêm i amser ychwanegol.

Buddugoliaeth 3-2 i Fulham dros y ddwy gymal felly, a nhw fydd yn mynd i Wembley i chwarae eu cymdogion yn Llundain, Brentford, a gurodd Abertawe nos Fercher.

Gan siarad ar ôl y gêm, dywedodd rheolwr Caerdydd, Neil Harris, ei fod yn siomedig ond bod angen i’r chwaraewyr gadw’r angerdd a’r penderfynoldeb a welwyd neithiwr wrth fynd i mewn i’r tymor newydd ar 12 Medi.

Dywedodd Neil Harris: “Mae ‘na eiriau cryf a chadarnhaol wedi cael eu dweud yn yr ystafell newid.”

“Dw i eisiau chwaraewyr sy’n rhoi popeth. Mae angen adeiladu clwb ar waith caled ac ymdrech i gynrychioli’r rhan o Gymru lle rydyn ni’n byw.

“Fe drïwn ni ychwanegu [chwaraewyr o safon]. Rydyn ni eisiau bod yn llwyddiant.

“Mae’r chwaraewyr newydd ddweud wrtha’ i eu bod nhw’n mwynhau hyfforddi, ac yn mwynhau’r gemau, a’r ffordd ry’n ni’n chwarae.

“Mae angen inni atgynhyrchu hyn eto’r flwyddyn nesa’. Byddwn ni’n barod i fynd ar Fedi 12.”