Mae tymor tîm pêl-droed Abertawe ar ben ar ôl iddyn nhw golli o 3-2 dros y ddau gymal – a 3-1 yn yr ail gymal heno (nos Fercher, Gorffennaf 29) – yn erbyn Brentford yn y gemau ail gyfle.
Ar ôl ennill o 1-0 yn Stadiwm Liberty dros y penwythnos, roedden nhw’n llawn hyder wrth deithio ar gyfer y gêm olaf erioed yn Griffin Park.
Ond roedd y freuddwyd ar chwâl o fewn chwarter awr, wrth i’r tîm cartref sgorio dwy gôl gynnar oedd yn golygu bod yr Elyrch yn cwrso am weddill yr ornest, gydag Ollie Watkins ac Emiliano Marcondes yn sgorio.
Ar ôl dechrau’r ail hanner ar ei hôl hi o 2-0, fe wnaeth Brentford ymestyn eu mantais ymhellach funud ar ôl yr egwyl, wrth i Bryan Mbeumo daro foli oddi ar groesiad Rico Henry, oedd yn cael chwarae ar ôl i’w gerdyn coch yn y cymal cyntaf gael ei ddileu.
Er i Abertawe frwydro’n galed tan y diwedd, roedd ganddyn nhw ormod o waith i’w wneud ond ar ôl i’r siom gilio, fe ddaw cyfle i bwyso a mesur llwyddiant y rheolwr Steve Cooper yn ei dymor cyntaf yn rheolwr, nid yn unig ar Abertawe ond ym myd y clybiau.
Ymateb Abertawe
“Fe wnaethon ni roi gomod i ni’n hunain i’w wneud, wnaethon ni ddim chwarae’n ddigon da yn yr hanner cyntaf,” meddai Steve Cooper ar ddiwedd y gêm.
“Doedden ni ddim wedi chwarae’n ddigon ymosodol gyda’r bêl na hebddi ac fe wnaethon ni orffen yn rhy ddwfn a gadael gormod o le o gwmpas ein llinell amddiffynnol ac yng nghanol cae gan roi cyfleoedd iddyn nhw ymosod.
“Roedd y goliau’n destun siom o’r chwarae gosod ac er bod yr ail a’r drydedd yn dda, allwch chi ddim gadael pobol heb eu marcio nhw yn y cwrt cosbi fel ‘na.
“Wnaethon ni ddim rhoi’r gorau iddi ac fe aethon ni hyd y diwedd ond fe wnaethon ni roi gormod i ni’n hunain i’w wneud.”
Mae’n dweud mai “naïfrwydd” oedd yn gyfrifol am y drydedd gôl ar ôl 58 eiliad o’r ail hanner.
“Mae’n rywbeth na allwch chi ei wneud ar adeg fel hon, fe newidion ni rai o’r personél hanner amser i gael momentwm yn y gêm a gobeithio y byddai coesau newydd yn dod â syniadau newydd ac yna ry’n ni’n gwneud hynny, a dyna oedd yr ergyd farwol.
“Roedd cwympo’n brin o’r nod heno’n siomedig.”