Mae Conor Gallagher yn dweud bod Steve Cooper, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, yn “rhan fawr o’r rheswm” pam ei fod e wedi ymuno ar fenthyg y tymor hwn.
Roedd e’n ymateb i dymor cadarnhaol yr Elyrch, ar y cyfan, sydd wedi dod i ben mewn modd siomedig wrth iddyn nhw golli o 3-2 dros ddau gymal rownd gyn-derfynol y gemau ail gyfle yn erbyn Brentford.
Mae’n golygu, i bob pwrpas, y gall fod y chwaraewr canol cae wedi chwarae ei gêm olaf yng nghrys Abertawe cyn dychwelyd i Chelsea.
Ond wrth edrych yn ôl ar ei gyfnod yn Abertawe, mae’n dweud iddo fwynhau’r profiad o gydweithio eto â’r rheolwr arweiniodd dîm dan 17 Lloegr i godi tlws Cwpan y Byd yn 2017.
“Dw i wrth fy modd,” meddai am gydweithio â Steve Cooper.
“Yn amlwg, ro’n i’n ei nabod e o’r blaen o fod gyda Loegr.
“Ro’n i’n gwybod sut un oedd e a dw i wir yn mwynhau gweithio gyda fe.
“Roedd e’n rhan fawr o’r rheswm pam ddes i i Abertawe yn y lle cyntaf.
“Dw i mor falch fy mod i wedi dod yma.
“Mae’n glwb gwych a dw i wedi mwynhau’n fawr.”
Y dyfodol
Ar hyn o bryd, dywed Conor Gallagher nad yw’n sicr beth fydd yn digwydd yn y dyfodol.
Ond mae’n siŵr y bydd y cefnogwyr yn awyddus i weld y chwaraewr canol cae cadarn ac ymosodol yn dychwelyd y tymor nesaf pe bai cyfle.
“Dw i ddim yn meddwl am hynny nawr, ry’n ni newydd orffen y gêm,” meddai.
“Dw i wedi cael ail hanner gwych yn y tymor gydag Abertawe a dw i wedi mwynhau cymaint, a dw i mor ddiolchgar i’r clwb a’r cefnogwyr.
“Dw i ddim wir yn meddwl am y tymor nesaf ar hyn o bryd.
“Dw i ddim yn gwybod beth sy’n digwydd, a bod yn onest.
“Dw i newydd ddod oddi ar y cae, rhowch gyfle i fi.”