Mae Rygbi’r Byd wedi cyhoeddi y bydd gweddill Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn cael ei gynnal ar benwythnosau Hydref 24 a 31.

Cafodd rygbi rhyngwladol ei ohirio fis Mawrth yn sgil pandemig y coronaferiws, gan adael pedair gêm i’w chwarae ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Mae gan Iwerddon gemau i’w chwarae yn erbyn yr Eidal a Ffrainc, tra bod yr Eidalwyr dal angen herio Lloegr a bydd Cymru’n chwarae yn erbyn yr Alban.

Twrnament wyth tîm i gymryd lle gemau’r Hydref

Yna, mae hefyd disgwyl i Rygbi’r Byd gyhoeddi y bydd twrnament wyth tîm yn cymryd lle gemau’r Hydref eleni.

Bydd Siapan a Fiji yn ymuno â thimau’r Chwe Gwlad.

“Mae pandemig y coronaferiws wedi cael effaith digynsail ar gymdeithas a chwaraeon,” meddai Cadeirydd Rygbi’r Byd Syr Bill Beaumont.

“Drwy gydol y broses hon, mae pawb wedi ceisio darparu’r canlyniad gorau er mwyn cefnogi buddiannau rygbi rhyngwladol a chlwb, yn ogystal â’r chwaraewyr.”