Mae’r Cymro Mark Williams wedi dweud ei fod yn fwy parod nag erioed am Bencampwriaeth Snooker y Byd eleni.
Dywed ei fod wedi ei danio wrth iddo “ymarfer mwy na’r arfer” a byw ar ddeiet o’i hoff gebabs.
Bydd Mark Williams, sydd bellach yn 45 oed, yn dechrau’r bencampwriaeth yn erbyn Alan McManus ddydd Gwener (Gorffennaf 31).
Dywed Mark Williams fod cyfyngiadau’r pandemig wedi ei alluogi i baratoi’n well nag ers iddo gystadlu ym Mhencampwriaeth Snooker y Byd am y tro cyntaf yn 1997.
“Dw i wedi bod yn chwarae llwyth o snooker yn ystod y cwpl o fisoedd diwethaf, sy’n rhywbeth dw i heb allu gwneud ers tro.
“Dw i bendant wedi gallu ymarfer mwy na’r arfer cyn mynd i’r Bencampwriaeth eleni.”
Yn sgil ei fuddugoliaeth yn 2018, fe yw’r pencampwr byd hynaf-ond-un erioed, tu ôl i’w gyd-gymro, Ray Reardon.
Ond er bod ymddeol yn chwarae ar ei feddwl, dywedodd nad yw’n barod i fynd cweit eto:
“Dw i wedi bod yn siarad am roi’r gorau iddi ers blwyddyn neu ddwy ond dwi wedi penderfynu nawr nad ydw i’n mynd i boeni am y pethe ’ma. Dw i’n mynd i gario ymlaen a gweld lle ydw dros y bum mlynedd nesa’. “