Mae Steve Cooper, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, yn dweud y bydd y chwaraewyr “yn ymroi’n llwyr dros y tîm, y clwb a’r cefnogwyr” wrth herio Brentford yn ail gymal eu gêm gyn-derfynol yn y gemau ail gyfle heno (nos Fercher, Gorffennaf 29).
Mae gan yr Elyrch fantais o un gôl ar drothwy’r ail gymal yn Griffin Park, y gêm olaf erioed i’w chynnal yn y stadiwm cyn i Brentford symud i gartref newydd sbon.
Rhan o’r gemau ail gyfle yw hud a lledrith yr achlysur i’r cefnogwyr, ond fydd y ‘Jack Army’ ddim yn cael bod yno heno nac yn Wembley pe bai’r Elyrch yn goresgyn Brentford.
Ac fe allai nifer o’r chwaraewyr ar fenthyg fod yn chwarae yn eu gêm olaf i’r clwb heno pe na baen nhw’n llwyddo.
“Dw i wedi cael fy holi o’r blaen am chwaraewyr ar fenthyg neu mae eu cytundebau’n dod i ben, ac a fydd rhai yn chwarae eu gemau olaf,” meddai.
“Fe all fod.
“Dyna pam fod cymaint yn y fantol.
“Dw i’n gwybod fod gan bawb sy’n rhan o’r lle yma gysylltiad agos â’r clwb a’r ardal.
“Dw i’n ei deimlo fy hun, unwaith rydych chi’n dod yma, rydych chi’n dod yn rhan o’r gymuned yn gyflym iawn.
“Dw i’n gwybod y bydd y chwaraewyr yn ymroi’n llwyr dros y tîm, y clwb a’r cefnogwyr.
“Y cyfan allwn ni ofyn amdano yw fod y cefnogwyr yn parhau i’n cefnogi ni a chredu ynom ni fel maen nhw wedi’i wneud erioed.
“Mae popeth rydyn ni’n ei wneud er eu lles nhw, yn enwedig yn y cyfnod heriol hwn.
“Bydda i’n atgoffa’r chwaraewyr o hynny, fel dw i’n ei wneud bob gêm.”
Pwysigrwydd cartref
Wrth i Brentford ffarwelio â Griffin Park, mae Steve Cooper yn ymwybodol o gartref ysbrydol Abertawe ar gae’r Vetch.
Mae’n dweud ei fod e’n dal i deimlo’r cysylltiad agos sydd rhwng y clwb a’u hen gartref yng nghanol y ddinas, 15 mlynedd yn ddiweddarach.
“Rydyn ni wedi profi hynny drosom ni’n hunain pan symudodd y clwb o’r Vetch,” meddai.
“Mae calon ac enaid y lle hwnnw’n dal yn rhan o’n clwb pêl-droed ni.
“Roedd llawer o bobol sy’n dal yn y clwb wedi gweithio yn y Vetch, a dw i wrth fy modd yn clywed straeon am y lle a sut y bu i ni symud i’n cartref presennol gwych.
“Does dim amheuaeth mai hanes sy’n gwneud clybiau pêl-droed yn wych.”
Y timau
Mae’r cefnwr de Kyle Naughton ar gael i Abertawe eto yn dilyn gwaharddiad o dair gêm am gerdyn coch yn y gêm gynghrair dyngedfennol yn Nottingham Forest, ac mae Rico Henry ar gael i Brentford ar ôl i’w gerdyn coch am dacl flêr yn y cymal cyntaf gael ei wyrdroi.
Mae amheuon am ffitrwydd y blaenwr ac asgellwr Wayne Routledge a’r chwaraewr canol cae George Byers, gyda’r ddau wedi anafu eu coesau.
Mae Mike van der Hoorn yn cael ei fonitro ar ôl dychwelyd o anaf ar gyfer y cymal cyntaf dros y penwythnos a llwyddo i chwarae’r gêm gyfan am y tro cyntaf ers mis Rhagfyr.
Mae’r amddiffynwyr canol Joe Rodon a Ben Wilmot, ynghyd â’r golwr Freddie Woodman, allan ag anafiadau.