Mae Thomas Frank, rheolwr tîm pêl-droed Brentford, wedi rhybuddio Abertawe am gyflymdra’r ‘BMW’ – y blaenwyr Said Benrahma, Bryan Mbueno ac Olllie Watkins – ar drothwy ail gymal gêm gyn-derfynol gemau ail gyfle’r Bencampwriaeth yn Griffin Park heno (nos Fercher, Gorffennaf 29).

Mae’r triawd wedi sgorio 57 o goliau rhyngddyn nhw y tymor hwn, ond dydy’r un ohonyn nhw ddim wedi sgorio ers tair gêm – eu cyfnod hesb mwyaf hyd yn hyn a chyfnod heb fuddugoliaeth i Brentford.

Mae gan yr Elyrch fantais o un gôl ar ôl y cymal cyntaf yn Stadiwm Liberty a’r pryder yw y gallai’r tri adael Brentford pe na baen nhw’n ennill dyrchafiad i Uwch Gynghrair Lloegr y tymor nesaf.

“Rydyn ni’n mynd i fod yn yr Uwch Gynghrair,” oedd ymateb Thomas Frank yn ddiweddar pan gafodd ei holi am ddyfodol y triawd.

Heno fydd y tro olaf i Brentford chwarae yn Griffin Park cyn symud i stadiwm newydd sbon.

“Dw i’n credu bod Ollie yn arweinydd ac y gall e yrru’r tîm gyda’i ymddygiad a’r ffordd mae e’n gwasgu ac mae e’n gallu siarad ar y cae hefyd ac wrth gwrs, mae e’n gallu sgorio goliau, ond fe all e yrru’r tîm go iawn,” meddai Thomas Frank.

“Dw i’n credu bod gan Said bersonoliaeth ‘chwaraewr mawr ar gyfer gemau mawr’ ac mae e jyst yn edrych ymlaen at gêm fel hon.

“Mae’r un yn wir am Bryan a dw i’n dweud wrtho ei fod e’n chwaraewr o’r radd flaenaf ac am fwynhau ei hun.

“Wrth siarad am drwch blewyn, dw i’n 100% yn sicr y bydd un ohonyn nhw’n sgorio [yn erbyn Abertawe].”