Mae Rhian Brewster, yr ymosodwr ifanc sydd wedi bod ar fenthyg gyda Chlwb Pêl-droed Abertawe o Lerpwl y tymor hwn, wedi canu clodydd cefnogwyr y ‘Jack Army’ wrth i’r dyfalu am ei ddyfodol barhau.

Mae lle i gredu y byddai e a’r clwb yn awyddus i’r cyfnod ar fenthyg barhau y tymor nesaf, ond penderfyniad Lerpwl fydd hynny yn y pen draw.

Ers mis Ionawr, mae’r ymosodwr 20 oed wedi sgorio 11 gôl mewn 22 gêm ac roedd e’n aelod allweddol o dîm y rheolwr Steve Cooper wrth iddyn nhw gyrraedd rownd gyn-derfynol gemau ail gyfle’r Bencampwriaeth.

“Dw i wedi bod wrth fy modd bob eiliad, dw i’n caru’r clwb, dw i’n caru’r cefnogwyr, dw i’n caru’r staff, dw i’n caru pawb yma,” meddai.

“Dw i ddim yn gwybod beth fydd yn digwydd y flwyddyn nesaf ond os na fydda i’n dychwelyd, bydd Abertawe’n aros yn fy nghalon am byth.

“Abertawe fydda i am byth, a bydda i bob amser yn cadw llygad arnyn nhw doed a ddêl.

“Dw i ond yn gobeithio bod y bois yn mynd amdani eto y tymor nesaf.

“Os ydw i yma, byddwn ni’n gwthio gyda’n gilydd ond os na, gobeithio bod y bois yn gweithio’n galed, yn mynd amdani eto heb edrych drachefn.”

Canmol y cefnogwyr

“Mae hi’r un fath bod yma ag yn Lerpwl oherwydd rydyn ni’n un teulu mawr,” meddai wedyn am y cefnogwyr.

“Bydda i bob amser yn cadw llygad ar Abertawe.

“Mae’r Jack Army wedi bod yn wych i fi, ac fe ges i gân, fy nghân fy hun, wrth chwarae yn fy ngêm gyntaf.

“Fydda i fyth yn anghofio hynny, ac fe fydd bob amser yn fy meddwl.

“Alla i ddim diolch i’r cefnogwyr ddigon, a dw i’n caru’r Jack Army.”