Phil Hughes
Mae’r batiwr o Awstralia, Phil Hughes yn dal mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty wedi iddo gael ei daro yn ei ben gan bêl yn ystod gêm ddoe.

Syrthiodd Hughes, 25, yn anymwybodol wrth lain y Sydney Cricket Ground tra’n batio i dîm De Awstralia yn erbyn New South Wales yng nghystadleuaeth y Sheffield Shield.

Cafodd driniaeth frys cyn cael ei gysylltu i beiriant cynnal bywyd.

Cafodd yr holl gemau yn y gystadleuaeth eu gohirio ddoe yn dilyn y digwyddiad.

Mae llu o negeseuon o gefnogaeth gan gricedwyr a chefnogwyr wedi cael eu rhoi ar wefannau cymdeithasol.

Diolchodd hyfforddwr De Awstralia, Darren Berry am y negeseuon i Hughes, gan ddweud bod meddyliau pawb gyda’r chwaraewr a’i deulu.

Mae Bwrdd Criced Awstralia yn cynnig cefnogaeth i chwaraewyr a swyddogion a gafodd eu heffeithio gan y digwyddiad.

Treuliodd Hughes nifer o dymhorau yn chwarae yn Lloegr i Swydd Hampshire, Swydd Middlesex a Swydd Gaerwrangon.

Cynrychiolodd Hughes ei wlad am y tro cyntaf yn 2009, ond dydy e ddim wedi chwarae mewn gêm brawf ers dros flwyddyn.

Roedd disgwyl iddo ddychwelyd i’r tîm cenedlaethol ar gyfer y prawf cyntaf yn erbyn India fis nesaf.

Mae’r digwyddiad wedi codi amheuon am y cyfarpar diogelwch sydd ar gael i’r chwaraewr.

Dywedodd cwmni Masuri, sy’n cynhyrchu’r helmed roedd Hughes yn ei gwisgo, fod y chwaraewr yn gwisgo hen fersiwn o’u helmed, a bod fersiwn newydd ar gael erbyn hyn sy’n cynnig mwy o ddiogelwch.