Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cadarnhau bod Uwch Gynghrair JD Cymru ac Uwch Gynghrair Orchard Merched Cymru wedi derbyn eu statws elît drachefn.

Yn dilyn cyflwyno cyfyngiadau coronafeirws Lefel 4 yng Nghymru fis Rhagfyr, cafodd y statws elit a gemau yn y cynghreiriau eu hatal dros dro.

Er bod y wlad yn parhau i fod ar Lefel Rhybudd 4, mae Llywodraeth Cymru a’r Gymdeithas Bêl-droed wedi rhoi caniatâd i’r cynghreiriau baratoi i ddychwleyd i chwarae o dan brotocolau llym Covid-19.

Caiff cadarnhad ynghylch dyddiadau newydd y gemau y bu’n rhaid eu haildrefnu ei gyhoeddi maes o law.

Dim newid i JD Cymru’r Gogledd a’r De

Does dim newid i gynghreiriau JD Cymru y Gogledd a JD Cymru y De sydd eto i gael eu statws yn ôl.

Dan y rheolau, does dim hawl gan glybiau Haen 2 ddychwelyd nes bod y wlad naill ai’n symud i Lefel 3 neu’n derbyn statws elit.

Y Grŵp Chwaraeon Cenedlaethol sydd yn gyfrifol am roi statws elit i gynghreiriau ac mae’n cynnwys cynrychiolwyr o Chwaraeon Cymru, Cymdeithas Chwaraeon Cymru, Llywodraeth Cymru a Gemau’r Gymanwlad Cymru.

Atal gemau cynghreiriau pêl-droed Cymru am y tro

Gemau sy’n cynnwys clybiau nad ydynt yn gwbl broffesiynol yn cael eu gohirio am y tro