Mae awdurdodau rygbi Ffrainc yn mynnu y bydd ei gêm yn erbyn yr Alban ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn mynd yn ei blaen y penwythnos hwn.
Mae bellach naw o chwaraewyr Ffrainc a phum aelod o’r tîm hyfforddi, gan gynnwys y Prif Hyfforddwr Fabian Galthe, wedi profi’n bositif am Covid-19.
Hyd yma Ffrainc yw’r unig garfan yn y gystadleuaeth i gael achosion o’r coronafeirws.
Cyn i’r bencampwriaeth ddechrau eleni bu’n rhaid i drefnwyr y Chwe Gwlad lunio cynlluniau wrth gefn a chryfhau rheolau coronafeirws i argyhoeddi Llywodraeth Ffrainc fod modd cynnal y gemau yn ddiogel.
Cyhoeddodd gweinidog iechyd Ffrainc ddydd Iau diwethaf y byddai angen i unrhyw un sy’n profi’n bositif ynysu am 10 diwrnod, yn hytrach nag saith.
Golyga hyn na fydd capten Ffrainc Charles Ollivon, Antoine Dupont, Arthur Vincent, Julien Marchand, Gabin Villiere, Mohamed Haouas, Brice Dulin, Cyril Baille, Peato Mauvaka na Romain Taofifenua ar gael i wynebu’r Albanwyr ym Mharis ddydd Sul, Chwefror 18.
Gohirio gemau?
Fis Ionawr, cafodd Cwpan Pencampwyr Heineken a’r Cwpan Her eu hatal dros dro ar ôl i Lywodraeth Ffrainc ddweud na ddylai clybiau chwarae yn y cystadlaethau.
Pe bai rhaid gohirio gemau Chwe Gwlad oherwydd achosion o’r coronafeirws ymhlith unrhyw garfan, yna mae trefnwyr y gystadleuaeth yn mynnu y byddai pob ymdrech yn cael ei wneud i gynnal y gemau ar ddyddiad arall.
Mae wythnosau gorffwys yn cynnig cyfle i wneud hyn yn ôl y trefnwyr, ond fydd gemau sy’n cael eu canslo ddim yn arwain at fuddugoliaeth o 28-0 fel digwyddodd yng Nghwpan Cenhedloedd yr Hydref y llynedd.
Mae Prif Hyfforddwr Cymru, Wayne Pivac, hefyd wedi rhybuddio fod y coronafeirws yn parhau i fod yn fygythiad i’r gystadleuaeth.
Ac mae un aelod o garfan Cymru – Josh Adams – eisoes wedi ei wahardd rhag chwarae dwy gêm gyntaf Cymru yn y gystadleuaeth am dorri rheolau Covid.
Bydd Cymru yn wynebu Lloegr yng Nghaerdydd y penwythnos hwn cyn teithio i Rufain a Pharis ar benwythnosau olaf y Bencampwriaeth fis Mawrth – ond mae Llywodraeth Ffrainc eisoes wedi dweud na fydd angen i garfan Cymru ynysu cyn wynebu Ffrainc.