Mae gobeithion y Scarlets o gymhwyso ar gyfer Cwpan Pencampwyr Heineken yn dal yn fyw ar ôl iddyn nhw drechu Benetton o 41-17 a chipio pwynt bonws ym Mharc y Scarlets ddoe (dydd Sadwrn, Chwefror 20).

Daeth dau gais gan Jac Morgan a chais yr un gan Sam Costelow, Dane Blacker, Sione Kalamafoni a Paul Asquith, gyda Dan Jones a Steff Evans yn cicio 11 o bwyntiau rhyngddyn nhw.

Sgoriodd Leonardo Sarto a Cornelius Els geisiau i’r ymwelwyr, gyda phedwar pwynt oddi ar droed Edoardo Padovani.

Ymateb

“Mae e’n mynd yn iawn, on’d yw e?” meddai Glenn Delaney, prif hyfforddwr y Scarlets, am berfformiad y Cymro Jac Morgan.

“Roedd hi hefyd yn drueni ein bod ni wedi colli Sam [Costelow] yn gynnar oherwydd anaf i’w ffêr oherwydd roedd e’n edrych fel pe bai e’n cael un o’r gemau hynny hefyd.

“Mae’r bois ifainc hynny’n dangos eu bod nhw’n gallu chwarae ar y lefel yma, sy’n wych i’w weld.

“Dydy hi ddim yn rheng ôl ffôl os gallwch chi ddewis Jac gyda Sione a Cass [Uzair Cassiem] a bod gyda chi Ed [Kennedy] yn dod ymlaen ac yn gwneud shifft.”