Mae Mark Isherwood, yr Aelod Ceidwadol o’r Senedd yn y Gogledd, wedi codi pryderon am obeithion pencampwraig Baralympaidd o gymhwyso ar gyfer y Gemau Paralympaidd yn Tokyo yn sgil oedi wrth roi brechlynnnau Covid-19 yn y gogledd.
Er ei fod yn canmol Llywodraeth Cymru am fynd i’r afael â’r rhaglen frechu ledled y wlad, mae’n dweud bod un o’i etholwyr wedi cysylltu â fe’n gofidio na fydd ei merch, pencampwraig byd taflu pwysau F20 o’r Waun, yn cael ei brechu mewn da bryd i gystadlu mewn cystadleuaeth ragbrofol ar gyfer y Gemau Paralympaidd yn Tokyo.
Er nad yw’n ei henwi, mae Sabrina Fortune yn hanu o’r ardal dan sylw ac wedi ennill teitlau byd a Pharalympaidd yn y gamp.
Wrth drafod y sefyllfa yn y Senedd, gofynnodd Mark Isherwood am sicrwydd y bydd modd iddi fynd i Wlad Pwyl ar gyfer cystadleuaeth ragbrofol fis Mai er mwyn cymhwyso ar gyfer y Gemau Paralympaidd yn Tokyo yn ddiweddarach yn yr haf.
Mae hi yng nghategori 6 o ran blaenoriaethau i dderbyn brechlyn ac mae ei mam yn gofidio bod y sefyllfa am darfu ar ei gobeithion o ddod â’r fedal aur adref i Gymru “am nad yw hi wedi cael ei brechu mewn da bryd”.
Ac fe gododd e bryderon eraill fod pobol y tu draw i’r ffin yn Sir Amwythig yn derbyn brechlyn dipyn yn gynt na phobol yn yr un categorïau ar yr ochr Gymreig i’r ffin.
Ymateb Llywodraeth Cymru
“Yn nhermau eich etholwr a’i phryder ei bod hi yng ngrŵp 6 ac nad yw hi eto wedi cael ei brechlyn, dw i’n disgwyl y byddwn ni’n efelychu cyflymdra Lloegr lle maen nhw’n credu y gallan nhw gwblhau’r holl grwpiau hyd at grŵp blaenoriaeth naw erbyn canol mis Ebrill,” meddai Vaughan Gething, Ysgrifennydd Iechyd Cymru wrth ymateb.
“Felly dw i ddim yn credu y bydd yn rhaid i’ch etholwr aros lawer iawn mwy.
“Dw i’n credu o fewn Cymru, o fewn Lloegr, o fewn pob gwlad, fe allech chi gael canolfannau dosbarthu brechlynnu sydd â chyflenwadau ychydig yn wahanol o’u cymharu â’i gilydd ond ar y cyfan, rydyn ni’n mynd yn gyflym iawn.”