Fe fydd Connor Brown, cyn-fatiwr Morgannwg, yn chwarae i Sir Genedlaethol Cymru (Siroedd Llai Cymru gynt) yn ystod y tymor criced sydd i ddod.

Cafodd y batiwr ei ryddhau gan Forgannwg ar ddiwedd y tymor diwethaf, sy’n golygu y bydd e ar gael drwy gydol yr haf hwn i chwarae ym mhob fformat ar y lefel islaw’r siroedd proffesiynol.

Chwaraeodd e i Forgannwg mewn gêm undydd am y tro cyntaf yn 2018 ond roedd pwysau ariannol ar Forgannwg erbyn diwedd y tymor diwethaf i leihau maint y garfan ac roedd y batiwr 23 oed o Gaerdydd ymhlith y rhai oedd wedi gadael.

“Dw i wir yn edrych ymlaen at fod yn ôl gyda Chymru,” meddai.

“Ar ôl chwarae’n achlysurol dros y blynyddoedd diwethaf, dw i’n gwybod y bydd yn cynnig cyfle i fi barhau i guro ar y drws.

“Mae gyda ni griw gwych o fois, a dw i wedi chwarae gyda’r rhan fwyaf ohonyn nhw yn ifanc ac alla i ddim aros i gael bwrw iddi a’n gyrru ni yn y cyfeiriad cywir.”

Croesawu Connor Brown

Prif hyfforddwr Sir Genedlaethol Cymru yw Darren Thomas, cyn-fowliwr cyflym Morgannwg, ac mae’n dweud y bydd Connor Brown “yn ffitio i mewn i’r garfan yn wych”.

“Bydd e’n ychwanegu rhediadau, proffesiynoldeb a gallu amlwg i’r garfan ifanc gyffrous sydd gyda ni,” meddai.

“Mae gan Connor lu o brofiad proffesiynol hefyd i’w drosglwyddo i rai sy’n dyheu am fod yn gricedwyr ifanc ar ôl dilyn ein llwybrau, a gobeithio y bydd e’n torri trwodd i’r gêm dosbarth cyntaf unwaith eto yn fuan.

“Tan ei fod e, rydyn ni’n falch o’i gael e.”

Bydd tymor Sir Genedlaethol Cymru’n dechrau gyda gêm ugain pelawd yn erbyn Berkshire yn Henley ar Ebrill 18.