Mae Tiger Woods ar ddihun ac yn gwella ar ôl cael llawdriniaeth frys yn dilyn gwrthdrawiad – ac mae adroddiadau ei fod yn ffodus o fod yn fyw o hyd.

Mae’r Americanwr 45 oed wedi cael anafiadau sylweddol i’w goes ar ôl colli rheolaeth ar ei gerbyd a tharo bariau yng nghanol y ffordd.

Yn ôl yr heddlu, fe oroesodd e’r digwyddiad oherwydd bod ei gerbyd wedi ei amddiffyn ac mae staff meddygol yr ysbyty lle mae’n cael triniaeth yn dweud ei fod e wedi torri esgyrn yn rhannau uchaf ac isaf ei goes, a’i fod e hefyd wedi cael triniaeth ar ei ffêr a’i droed ar ôl difrod i gyhyrau a meinwe.

Dywed yr heddlu nad oes arwyddion ei fod e wedi bod yn yfed alcohol nac wedi cymryd cyffuriau.

Yn ôl yr heddlu, mae gwrthdrawiadau ar y ffordd lle cafwyd hyd iddo yn gyffredin iawn.

Fe fu’n gwella dros y blynyddoedd diwethaf ar ôl cael llawdriniaeth ar ei gefn yn 2017 ac roedd e wedi bod yn gobeithio cystadlu mewn sawl cystadleuaeth dros y misoedd i ddod.

Mae nifer o golffwyr blaenllaw, gan gynnwys Jack Nicklaus a Greg Norman, wedi bod yn dymuno’n dda iddo fe ar y cyfryngau cymdeithasol.