Mae’r Cymro John Hartson wedi croesawu ymddiswyddiad Neil Lennon, rheolwr ei hen glwb Glasgow Celtic yn yr Alban.

Fe fu’r Gwyddel, sydd wedi bod yn y swydd ers Chwefror 2019, dan bwysau trwy gydol y tymor ond roedd yn mynnu na fyddai’n camu o’r neilltu.

Maen nhw 18 pwynt y tu ôl i’w cymdogion a gelynion pennaf Rangers ac ar ôl i Celtic golli yn erbyn Ross County dros y penwythnos, mae Rangers saith pwynt yn unig i ffwrdd o gipio’r bencampwriaeth.

Roedd Celtic yn mynd am ddegfed teitl o’r bron, ond fe allai’r golled ddiweddaraf weld Rangers yn cipio’r tlws yn eu cartref nhw yn Parkhead fis nesaf.

Yn ystod ei ail gyfnod wrth y llyw, mae Neil Lennon wedi ennill y gynghrair ddwywaith, y gwpan ddwywaith a Chwpan y Gynghrair unwaith.

Yn ôl Neil Lennon, fe fu’r tymor hwn yn “anodd, yn rhwystredig iawn ac yn destun siom” ac mae’r clwb wedi talu teyrnged ac wedi diolch iddo am ei waith.

Ymateb John Hartson

Un sydd wedi croesawu’r cyhoeddiad yw John Hartson, cyn-ymosodwr Cymru a Celtic.

“Gall Neil Lennon fod yn falch o’i gyflawniadau fel chwaraewr, hyfforddwr a rheolwr Celtic,” meddai ar Twitter.

“Dw i ddim wedi synnu ei fod e wedi ymddiswyddo ond yn teimlo taw dyma’r canlyniad gorau i Celtic, c mae angen i’r clwb symud yn gyflym nawr i gael rheolwr newydd a’i staff i mewn ar gyfer yr heriau o’u blaenau.”

Clwb Pêl-droed Celtic

John Hartson yn galw am reolwr newydd yn Celtic

Mae’r tymor wedi bod yn un siomedig, yn ôl cyn-gapten Cymru